Cwestiynau a Ofynnir yn Aml ynglŷn â derbyniadau 3+
Pam mae'r cyngor yn trefnu proses dderbyniadau?
Mae hyn i sicrhau bod agwedd deg a chyson ar draws y sir ar gyfer lleoliadau a gynhelir a lleoliadau nas cynhelir.
Rwyf eisiau i'm plentyn fynychu lleoliad gwahanol? Gyda phwy yr wyf i gysylltu?
Os yw rhiant/gofalwr yn dymuno newid eu dewis ar gyfer lleoliad neu newid y dyddiau neu oriau y maent yn dymuno i'w plentyn fynychu'r lleoliad, fe fydd gofyn iddynt gysylltu ag preschooladmissions@powys.gov.uk gan roi manylion llawn y newid.
Rwyf eisiau i'm plentyn gael mynediad at fwy o oriau sydd wedi'u hariannu. Beth sydd angen i mi ei wneud?
Os yw rhiant/gofalwr yn dymuno newid eu dewis ar gyfer lleoliad neu newid y dyddiau neu oriau y maent yn dymuno i'w plentyn fynychu'r lleoliad, fe fydd gofyn iddynt gysylltu ag preschooladmissions@powys.gov.uk gan roi manylion llawn y newid.
Rwyf eisiau newid y sesiynau a fynychir. Er enghraifft, boreau/prynhawniau/dyddiau gwahanol. A allaf ofyn i'r lleoliad?
Os yw rhiant/gofalwr yn dymuno newid eu dewis ar gyfer lleoliad neu newid y dyddiau neu oriau y maent yn dymuno i'w plentyn fynychu'r lleoliad, fe fydd gofyn iddynt gysylltu ag preschooladmissions@powys.gov.uk gan roi manylion llawn y newid.
Nid oes lle wedi cael ei ddyrannu i'm plentyn yn fy newis o leoliad, a allaf apelio?
Na, nid oes unrhyw hawl i apelio gan fod y ddarpariaeth yn un anstatudol.
Rydym yn symud o fewn Powys, pwy sydd angen i mi roi gwybod iddynt?
Rhaid anfon unrhyw newid mewn manylion ar gyfer y plentyn ymlaen at admissionsandtransport@powys.gov.uk er mwyn gallu diwygio eu cofnodion.
Rydym yn symud allan o Bowys neu Gymru, gyda phwy y mae angen i mi gysylltu?
Rhaid anfon unrhyw newid mewn manylion ar gyfer y plentyn ymlaen at admissionsandtransport@powys.gov.uk er mwyn gallu diwygio eu cofnodion
Pryd a sut fydd y rhieni/gofalwyr yn derbyn hysbysiad am y lleoedd a ddyrennir?
Bydd rhieni yn derbyn llythyr erbyn 31 Hydref 2019 ar yr hwyraf
Pryd a sut fydd y lleoliad yn derbyn hysbysiad am y lleoedd a ddyrennir?
Bydd lleoliadau yn derbyn rhestr, dros e-bost o'r lleoedd a ddyrennir, heb fod yn hwyrach na dydd Llyn, 11 Tachwedd 2019.
Rwyf wedi colli'r dyddiad cau i ymgeisio am le. A all fy mhlentyn gael lle?
Dylid gwneud cais ar unwaith. Bydd y cais yn GAIS HWYR, ond fe fydd yn cael ei ystyried o fewn y Rownd Derbyniadau, os yw hynny'n bosibl
A all y lleoliad dderbyn plant sy'n talu ffi wedi eu pen-blwydd yn 3 blwydd oed?
Mae uchafswm niferoedd gan bob lleoliad (fel y penderfynir gan Arolygiaeth Gofal Cymru) o ran nifer y plant y gallant eu derbyn yn y lleoliad. Ar y sail honno, os oes lleoedd ar gael, wedi i leoedd gael eu dyrannu i'r plant a ariennir, yna gall y lleoliad dderbyn plant sy'n talu ffi hyd at yr uchafswm niferoedd. Fodd bynnag, os oes angen lle byth ar gyfer plentyn 3 neu 4 mlwydd oed a ariennir, yna dylid sicrhau fod lle yn cael ei wneud ar gael iddynt.
Tîm Derbyniadau Powys yw'r corff derbyn ac mae ganddynt yr hawl i dderbyn plant hyd at nifer y lleoedd blynyddoedd cynnar yr ariennir y lleoliad ar eu cyfer.