1. Logio Mewn / Cofrestru
  2. English
Close Icon
  1. Logio Mewn / Cofrestru
Hysbysiad: Dronau i'w Gweld yn yr Awyr
Darllen mwy

Cystadleuaeth casglu gwastraff gardd

Image cynrychioli Cystadleuaeth casglu gwastraff gardd

12 Mehefin 2019

Image of a green garden waste binBydd cyfle gan drigolion ym Mhowys ennill tocynnau i ymweld ag un o atyniadau twristiaeth fwyaf poblogaidd Cymru, os ydynt yn cofrestru i dderbyn gwasanaeth casglu gwastraff gardd y cyngor.

Mae gan Gyngor Sir Powys 10 tocyn teulu i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru fel rhodd yn y gystadleuaeth.

Y cyfan sy'n rhaid i chi wneud yw cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gardd erbyn dydd Sul, 30 Mehefin.

I gofrestru ar gyfer y gwasanaeth, ewch i https://cy.powys.gov.uk/gwastraffgardd neu ffoniwch 01597 827465.

Bydd trigolion sydd eisoes wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hefyd yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Priffyrdd, Ailgylchu ac Asedau: "Mae bron i 7000 o aelwydydd wedi cofrestru i fanteisio ar ein gwasanaeth newydd ers ei gyflwyno ym mis Ebrill.  Nawr bod y tymor tyfu yn ei anterth, rydym yn cynnig cymhelliad ychwanegol i roi tro ar y gwasanaeth.

"Ni allai fod yn haws gael eich gwastraff wedi'i gasglu o'ch cartref, mae'n syml, cofrestrwch ar-lein ar gyfer y gwasanaeth cyfleus hwn a bydd eich enw'n cael ei roi yn y gystaleuaeth wych hon.  Nid yn unig hynny ond byddwch yn ein helpu ni i gynyddu ailgylchu ac yn gwneud eich rhan dros yr amgylchedd."

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu