Cystadleuaeth casglu gwastraff gardd

12 Mehefin 2019
Bydd cyfle gan drigolion ym Mhowys ennill tocynnau i ymweld ag un o atyniadau twristiaeth fwyaf poblogaidd Cymru, os ydynt yn cofrestru i dderbyn gwasanaeth casglu gwastraff gardd y cyngor.
Mae gan Gyngor Sir Powys 10 tocyn teulu i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru fel rhodd yn y gystadleuaeth.
Y cyfan sy'n rhaid i chi wneud yw cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gardd erbyn dydd Sul, 30 Mehefin.
I gofrestru ar gyfer y gwasanaeth, ewch i https://cy.powys.gov.uk/gwastraffgardd neu ffoniwch 01597 827465.
Bydd trigolion sydd eisoes wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hefyd yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Priffyrdd, Ailgylchu ac Asedau: "Mae bron i 7000 o aelwydydd wedi cofrestru i fanteisio ar ein gwasanaeth newydd ers ei gyflwyno ym mis Ebrill. Nawr bod y tymor tyfu yn ei anterth, rydym yn cynnig cymhelliad ychwanegol i roi tro ar y gwasanaeth.
"Ni allai fod yn haws gael eich gwastraff wedi'i gasglu o'ch cartref, mae'n syml, cofrestrwch ar-lein ar gyfer y gwasanaeth cyfleus hwn a bydd eich enw'n cael ei roi yn y gystaleuaeth wych hon. Nid yn unig hynny ond byddwch yn ein helpu ni i gynyddu ailgylchu ac yn gwneud eich rhan dros yr amgylchedd."