Cyhoeddi arweinydd noson gwobrau busnes arobryn y sir

20 Mehefin 2019
Mae trefnwyr seremoni Gwobrau Busnes Powys a gynhelir fis Hydref, Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru wedi cyhoeddi pwy fydd yn arwain y noson.
Mae cyflwynydd teledu Coast & Country ar ITV Andrew Price yn cael ei ystyried yn un o awdurdodau pennaf y DU ar fyw yn yr anial. Mae'n un o ddarpar sêr maes goroesi yn y Du felly mae'n ddewis addas ar gyfer amgylchedd Ysgol Troedfilwyr Dering Lines yn Aberhonddu, a fydd yn croesawu'r seremoni wobrwyo arbennig hon.
Mae'r gwahoddiad bellach ar agor ar gyfer y 12 categori sydd ar gael:
- Gwobr Entrepreneuriaeth, noddir gan Lywodraeth Cymru
- Gwobr Dechrau Busnes, noddir gan y Myrick Training
- Gwobr Busnes Bach (Dan 10 o weithwyr, noddir gan y Cambrian News a'r Brecon and Radnor Express
- Gwobr Twf, noddir gan Fanc Datblygu Cymru
- Gwobr Buddsoddi mewn Pobl, noddir gan PCI Pharma Services
- Gwobr Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cwsmer, noddir gan Nidec Control Techniques
- Gwobr Busnes Bach (dan 30 o weithwyr), noddir gan The County Times
- Gwobr Menter Gymdeithasol/Elusen, noddir gan Gymdeithas Tai Canolbarth Cymru Cyf.
- Gwobr Masnach Ryngwladol, noddir gan Trax JH Ltd
- Gwobr Prentis Eithriadol, noddir gan Grŵp Gweithgynhyrchu'r Canolbarth
- Gwobr Technoleg ac Arloesi, noddir gan Gwmni Cyfreithwyr Lanyon Bowdler
- Gwobr Twf Busnesau Bach, noddir gan Grŵp Colegau NPTC
- Busnes y Flwyddyn, noddir gan Gyngor Sir Powys
Yn ogystal â'r gwobrau uchod, mae gan y Panel Beirniadu wobr arbennig sef Gwobr y Beirniaid sy'n cael ei chyflwyno bob blwyddyn i gydnabod unigolyn neu gyrhaeddiad arbennig a ddaeth i sylw'r beirniaid yn ystod eu hymweliadau, nad yw'n cael ei gydnabod o fewn meini prawf llym y gwobrau eraill. Siambr Fasnach Canolbarth Cymru sy'n noddi'r wobr yma eleni.
O enillwyr y categorïau, mae gwobr gyffredinol Busnes Powys y Flwyddyn 2019 yn cael ei noddi gan Gyngor Sir Powys.
Ewch i'r wefan sef www.powysbusinessawards.co.uk i weld rhagor o fanylion. Y dyddiad cau i anfon ceisiadau yw dydd Gwener, 12 Gorffennaf 2019.