Dyfarniad Lefel 2 Highfield mewn Diogelwch Bwyd ym maes Arlwyo
Darparwr y cwrs: Social Care Consultants Ltd
Deilliannau Dysgu | Meini Prawf Asesu |
---|---|
Bydd y dysgwr yn | Gall y dysgwr |
1. Deall sut y gall unigolion gymryd cyfrifoldeb personol am ddiogelwch bwyd | 1. Adnabod pwysigrwydd gweithdrefnau iechyd bwyd, dulliau trin bwyd yn ddiogel ac osgoi ymddygiad anniogel. 2. Gwybod sut i hysbysu ynglŷn â pheryglon diogelwch bwyd, plâu a dirywiad bwyd 3. Adnabod prif gyfrifoldebau cyfreithiol pobl sy'n trin bwyd.
|
2. Deall pwysigrwydd pobl sy'n trin bwyd yn cadw'u hunain yn lân ac yn hylan. | 1. Adnabod pwysigrwydd glendid personol ym maes diogelwch bwyd gan gynnwys eu rôl wrth leihau'r risg o halogiad. 2. Gwybod beth yw'r arferion hylendid personol effeithiol o ran dillad gwarchodol, golchi â llaw, salwch personol, toriadau i'r croen, anafiadau, ac arferion trin bwyd. |
3. Deall pwysigrwydd mannau gwaith yn lân ac yn hylan | 1. Gwybod sut i gadw'r mannau gwaith a'r offer yn lân ac yn daclus, trwy ddilyn gweithdrefnau sy'n ymwneud â dulliau glanhau, defnyddio cemegau yn ddiogel, a storio cemegau glanhau. 2. Gwybod pwysigrwydd gwaredu gwastraff yn ddiogel. 3. Gwybod pwysigrwydd rheoli plâu. |
4. Gwybod pwysigrwydd cadw bwyd yn ddiogel | 1. Adnabod y prif risgiau i ddiogelwch bwyd o halogiad a thraws-halogiad o ganlyniad i beryglon microbaidd, cemegol, ffisegol a alergenaidd. 2. Gwybod beth yw'r arferion trin bwyd a rheoli tymheredd ar gyfer dosbarthu, storio, nodi dyddiad a chylchdroi stoc. 3. Gwybod beth yw'r arferion trin bwyd a rheoli tymheredd ar gyfer paratoi, coginio, oeri, aildwymo, dal, gweini a chludo bwyd. 4. Gwybod sut i drin dirywiad bwyd, gan gynnwys sut i'w adnabod a sut i roi gwybod amdano. |
Dyddiad | Lleoliadau | Amseroedd |
---|---|---|
22 Ionawr 2020 | Cartrefi Cymru, Aberhonddu | 9.30am - 4.30pm |
6 Chwefror 2020 | Y Gwalia, Llandrindod | 9.30am - 4.30pm |
27 Chwefror 2020 | NPTC, Y Drenewydd | 9.30am - 4.30pm |
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd. |
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau