Dirwy am adael sbwriel

24 Mehefin 2019
Mae unigolyn o Ystradgynlais wedi cael dirwy o £75 am adael sbwriel ger stad dai.
Fe wnaeth tîm ymwybyddiaeth gwastraff Cyngor Sir Powys roi'r ddirwy ar ôl dod o hyd i sbwriel ar lwybr seiclo'r Gurnos nôl ym mis Mawrth. Roedd y sbwriel yn cynnwys manylion rhif cofrestru cerbyd.
Llwyddwyd i ddod o hyd i geidwad cofrestredig y cerbyd trwy gronfa data'r DVLA gyda'r cyngor yn cymryd y camau priodol gan arwain at roi dirwy o £75.
Mae'r cyngor yn rhybuddio trigolion bod angen cael gwared ar eu sbwriel yn y ffordd gywir trwy ddefnyddio bin sbwriel neu'r blychau ailgylchu ar ôl cyrraedd adref.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Ailgylchu a Gwastraff: "Peth annymunol iawn yw gweld sbwriel ar hyd y lle. Mae'n cael effaith ar ein cymunedau ac yn costio'n ddrud i drethdalwyr i'w lanhau.
"Rwy'n annog pawb i geisio cadw Powys yn daclus trwy gael gwared ar eu sbwriel. Ein nod yw cadw'r sir yn lân a chreu amgylchedd sy'n denu twristiaid a busnesau i'r ardal."