Y Cyngor i wella llwybrau casglu gwastraff yr ardd

25 Mehefin 2019
Mae'r cyngor sir wedi cyhoeddi y bydd dyddiau casglu gwastraff yr ardd yn newid ym Mhowys ar gyfer rhai aelwydydd dros yr wythnosau nesaf.
Mae bron i 7,000 o dai wedi cofrestru ar gyfer gwasanaeth casglu gwastraff gardd Cyngor Sir Powys ers iddo ddechrau ynghynt eleni.
A hithau'n dri mis ers lansio'r gwasanaeth mae'r cyngor wedi dechrau arolygu'r llwybrau casglu ac yn edrych i'w gwneud yn fwy effeithiol.
Bydd y cyngor yn rhoi gwybod i breswylwyr os bydd eu diwrnod casglu'n newid trwy lythyr o leiaf wythnos cyn eu casgliad bob pythefnos.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Ailgylchu a Gwastraff: "Mae bron i saith mil o aelwydydd wedi cofrestru i fanteisio ar ein gwasanaeth newydd ers i ni ei gyflwyno ym mis Ebrill.
"Gan fod y gwasanaeth wedi bod yn rhedeg ers ychydig o fisoedd, rydym yn edrych i wneud y llwybrau casglu'n fwy effeithiol ar gyfer y gwasanaeth hwn. Bydd hyn yn digwydd dros yr wythnosau nesaf.
"Bydd hyn yn golygu y bydd rhai trigolion yn gweld eu diwrnod casglu'n newid, ond byddwn yn ysgrifennu at drigolion i'w hysbysu am eu diwrnod casglu newydd.
"Hoffwn i ddiolch i'r aelwydydd hynny sydd wedi cofrestru ar gyfer ein gwasanaeth newydd a chyfleus. Mae'n ein helpu i ailgylchu mwy ac yn gwneud gwahaniaeth i'n hamgylchedd."
Gall pobl gofrestru i dderbyn y gwasanaeth casglu gwastraff yr ardd o hyd. Os ydynt yn gwneud cyn 30 Mehefin byddant yn cael cyfle i ennill tocynnau i'r teulu i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
I gymryd rhan cofrestrwch ar gyfer y gwasanaeth trwy fynd i https://cy.powys.gov.uk/gwastraffgardd neu ffoniwch 01597 827465 erbyn diwedd y mis.
Bydd y cyngor hefyd yn cynnwys trigolion sydd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth newydd yn y gystadleuaeth i ennill tocynnau.