Adolygu addysg chweched dosbarth ym Mhowys

3 Gorffennaf 2019
Mae dadansoddiad diweddar wedi tynnu sylw at yr angen i drawsnewid addysg ôl-16 ym Mhowys. Mae'n rhaid newid os ydym i barhau i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel sy'n gallu cynnig cyfleoedd eang i ddysgwyr.
Mae'r cyngor wedi arolygu ei wasanaeth ôl-16 a bydd adroddiad sy'n nodi cyfleoedd a dewisiadau am newid yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau'r wythnos nesaf.
Wrth wraidd yr adolygiad hwn yw'r angen i ddarparu addysg i rai 16 - 18 oed a fydd yn eu galluogi i wireddu eu huchelgais, symud ymlaen i Addysg Uwch, prentisiaethau ac i fyd gwaith. Bydd gan y bobl ifanc yma'r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr a bydd yn sail i dyfu cyfleoedd gwaith a chyfoeth yn yr economi leol.
Mae'r arolwg yn dangos bod gan drigolion feddwl da o'r gwasanaeth ar y cyfan a'i fod yn cynnig gwasanaeth o safon uchel i ddysgwyr 16-18 oed. Ond mae angen iddo newid i ymateb i heriau ariannol ac amrywiol dros y cyfnod nesaf.
Dywedodd y Prif Weithredwr Dr Caroline Turner, "Mae'r arolygiad cam un, a fydd yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau'r Cyngor ar ddydd Llun a chan cabinet yn hwyrach yn y mis, yn nodi'r heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth. Mae'n argymell amrywiaeth o ddewisiadau yn y tymor byr i'w hystyried wrth inni ddatblygu atebion yn y tymor hir.
"Mae hefyd yn argymell datblygu cyfleoedd dysgu digidol i gynnig dewis ehangach a lleihau teithio. Mae'n cymeradwyo datblygu brand newydd ar gyfer addysg ôl-16 a lansio ymgyrch marchnata newydd gyda'r nod o gadw ein dysgwyr ifanc yn y sir.
"Mae'r arolwg yn cydnabod bod angen datblygu atebion mwy uchelgeisiol yn y tymor hir i greu crynswth critigol a darpariaeth ôl-16 o'r radd flaenaf yn y sir sy'n gynaliadwy. Rydym eisoes wedi dechrau ar y broses trwy ymgysylltu'n helaeth gyda'n dysgwyr. Bydd y canlyniadau hynny'n ffurfio rhan o'r broses o wneud penderfyniadau.
"Bydd rhaid inni ystyried unrhyw fodel yn ofalus, gydag achos busnes manwl a fydd yn pwyso a mesur goblygiadau costau a budd - ac unrhyw effaith newid strwythurol. Byddwn yn trafod cynigion yn llawn gyda phartïon cysylltiedig. Bydd ein cynlluniau terfynol yn rhoi ystyriaeth i effeithiau addysgol, ariannol ac economaidd ar ddysgwyr, cymunedau, yr economi, yr amgylchedd a'r iaith Gymraeg."