1. Logio Mewn / Cofrestru
  2. English
Close Icon
  1. Logio Mewn / Cofrestru

Allech chi faethu i Bowys?

Image cynrychioli Allech chi faethu i Bowys?

3 Gorffennaf 2019

Image of two young girls next to a hand drawn houseMae Cyngor Sir Powys yn cynnal nifer o sesiynau taro heibio yn y sir i annog pobl Powys i ystyried dod yn ofalwyr maeth.

Os allech chi gynnig cartref gofalgar a diogel i blentyn, rhywun yn ei arddegau neu frodyr a chwiorydd lleol, yna galwch heibio un o'r sesiynau hyn dros yr haf yn:

  • Eglwys y Santes Fair, Aberhonddu: Dydd Mawrth, 9 Gorffennaf, 11.30 - 4pm
  • The Cwtch, Llanfair-ym-Muallt: Dydd Mawrth 16 Gorffennaf, 1pm - 4pm
  • The Herb Garden, Llandrindod: Dydd Iau, 1 Awst, 10am - 4pm

Mae sawl ffordd i helpu plant lleol, o gyfnodau byr neu dymor hir, dros nos neu benwythnosau i lety â chymorth i'r rhai sy'n gadael gofal.

Dywedodd Jan Coles, Pennaeth Gwasanaethau Plant, "Rwy'n annog unrhyw un sy'n ystyried maethu i alw heibio un o'r sesiynau hyn am sgwrs anffurfiol gyda'r tîm proffesiynol a phrofiadol.  Fe allech chi wneud gwahaniaeth go iawn i fywyd plentyn neu berson ifanc lleol ym Mhowys."

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu