Graean Ffordd
Mae rheoli'r rhwydwaith priffyrdd yn Sir Powys yn cynhyrchu llawer o raean ffordd sy'n ddeunydd rhagorol i'w ailddefnyddio. Yna mae'n bosibl gwerthu unrhyw ddeunyddiau dros ben am brisiau cystadleuol iawn. Mae hyn yn arwain at lai o effaith ar yr amgylchedd ac arbedion cost sylweddol i'r Cyngor a'n cwsmeriaid.
Mae graean ffordd yn ddelfrydol ar gyfer:
- llwybrau
- meysydd parcio
- deunydd sylfaen ar gyfer patios
- lonydd at dai
Gellir cludo'r graean ffyrdd ar gyfer unigolion neu fusnesau, neu mae modd eu casglu. Rhaid eu casglu gyda cherbyd priodol sy'n addas i'r ffordd fawr, a bydd y Cyngor yn llwytho'r graean. Gellir cludo'r graean o fewn pellter rhesymol o'r storfeydd graean.
Prisiau Gorffennaf 2019
Gall unigolion neu fusnesau gludo'r deunydd o'r safle, neu mae modd eu cludo o'r pentwr stoc.
Wagen godi 6-olwyn (gyda lle i lwyth o ryw 16 tunnell) Wagen Godi Lawn £130.00
Wagen godi 8-olwyn (gyda lle i lwyth o ryw 20 tunnell) Wagen Godi Lawn £160.00£8 y dunnell. Gellir cludo neu gasglu llwythi o isafswm o 10 tunnell o'r pentwr stoc. Nid oes isafswm ar gyfer cludo'r graean o'r safle
Mae'r prisiau uchod yn cynnwys llwytho yn y man casglu os yw'r deunydd yn cael ei gasglu.
Cludo hyd at 30 munud o daith o leoliad y stoc £50. Gellir trefnu cludiant ymhellach i ffwrdd a dyfynnu am hyn. Llenwch y ffurflen ymholiadau isod.
Sylwch na fydd y lori'n cael ei phwyso, felly amcangyfrif o bwysau'r deunydd a geir. Bydd y lori'n cael ei llenwi.
Mae'r holl gludo/casglu yn dibynnu a oes graean ar gael a lle yn y depos lleol. Byddwn yn cysylltu â chwsmeriaid yn dilyn cludo neu gasglu i gael manylion eu cerdyn/cyfrif banc. Gellir darparu anfoneb os oes angen.
Ar gael ar hyn o bryd:
Ar gael ar hyn o bryd yng Ngogledd y Sir (ardal y Trallwng yn unig).
Mae 100 Tunnell ar gael i'w gasglu yn Ne'r Sir yn unig, cysylltwch os oes gennych ddiddordeb.
Gellir cludo neu gasglu llwythi o isafswm o 10 tunnell o'r pentwr stoc. Nid oes isafswm ar gyfer cludo'r graean o'r safle.