1. Logio Mewn / Cofrestru
  2. English
Close Icon
  1. Logio Mewn / Cofrestru
Hysbysiad: Wyddoch chi y gallwch fenthyg cit casglu sbwriel wrthym ni a helpu i gadw Powys yn lân
Darllen mwy

Polisi Cludiant rhwng y Cartref a'r Ysgol / Coleg

Cynnwys

Rhan Un- Cymwysterau Safonol a Diffiniadau

Rhan Dau - Cludiant ar gyfer Amgylchiadau Unigol

Atodiad A Cymhwystra ar gyfer dysgwyr oedran ysgol statudol sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), anableddau parhaol neu broblemau symudedd (gan gynnwys dysgwyr ôl-16)

1.0 Fframwaith Polisi

1.1 Y fframwaith cyfreithiol

1.1.1 Mae Deddf Addysg 1996 (fel y'i diwygiwyd) yn nodi'r gyfraith yng Nghymru a Lloegr ar gyfer presenoldeb disgyblion yn yr ysgol ac mae Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn nodi'r polisi teithio i'r ysgol ar gyfer Cymru. Ymhlith pethau eraill, mae'r Mesur yn ymdrin â dyletswyddau awdurdodau lleol i asesu anghenion teithio dysgwyr, darparu diffiniad o'r ysgol addas agosaf a gwneud trefniadau cludiant ar gyfer grwpiau diffiniedig o ddysgwyr. Mae Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 yn nodi safonau diogelwch penodol ar gyfer cludiant ysgol penodedig.

1.1.2 Mae Teithio gan Ddysgwyr: Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol (Mehefin 2014) yn nodi darpariaeth gysylltiedig ar gyfer teithio i'r ysgol/gan ddysgwyr yng Nghymru.

1.1.3 Mae Canllawiau Statudol ynghylch y Cod Ymddygiad wrth Deithio (Mehefin 2014) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan ddysgwyr sy'n teithio i'w man dysgu ac oddi yno, gyda'r nod o gadw dysgwyr yn ddiogel wrth iddynt deithio i'r ysgol ac oddi yno, gan gynnwys teithiau rhwng ysgolion. Mae'n berthnasol i bob dysgwr hyd at 19 oed a'r holl drefniadau teithio, gan gynnwys bysiau, trenau, cerdded a beicio. Cynghorir rhieni i sicrhau bod eu dysgwyr yn ymwybodol o'r Cod Ymddygiad wrth Deithio.

Yn ôl i frig y tudalen

1.2 Trosolwg

1.2.1 Mae'n ofynnol bod Awdurdod Lleol Powys yn sicrhau bod pob dysgwr cymwys sydd fel arfer yn preswylio yn ardal y Cyngor yn gallu cael cludiant i'r ysgol a gynhelir addas agosaf.

1.2.2 Mae'r polisi hwn yn rhagdybio y bydd gan bob dysgwr cymwys sy'n byw ym Mhowys yr hawl i gael cludiant i'w ysgol a gynhelir addas agosaf.

1.2.3 Nod yr Awdurdod yw darparu cludiant diogel a dibynadwy sy'n rhoi gwerth am arian i gludo disgyblion/dysgwyr cymwys i'r ysgol/coleg ac oddi yno. Mae'r egwyddorion hyn yn berthnasol i bob cludiant rhwng y cartref a'r ysgol/coleg a ddarperir gan yr Awdurdod.

1.2.4 Nod yr Awdurdod yw sicrhau nad yw'n gwahaniaethu yn annheg, yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol, wrth weithredu a dehongli'r polisi hwn.

1.2.5 Mae'r Awdurdod yn annog disgyblion/dysgwyr cymwys i ddefnyddio cludiant ysgol pan fo hynny'n briodol.

1.2.6 Rhieni/gofalwyr sy'n gyfrifol am sicrhau bod eu dysgwyr yn teithio i'r ysgol ac oddi yno yn ddiogel (pan nad ydynt yn gymwys i ddefnyddio cludiant ysgol) ac i fannau casglu dynodedig ac oddi yno yn y bore a'r prynhawn. Ceir rhagor o wybodaeth yng Nghod Ymddygiad yr Awdurdod ar gyfer dysgwyr, rhieni/gofalwyr, ysgolion a gweithredwyr cludiant.

1.2.7 Mae gwregysau diogelwch yn yr holl gerbydau penodedig sy'n darparu cludiant i'r ysgol, ac mae'n rhaid eu gwisgo bob amser. Mae'n rhaid i weithredwyr gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod teithwyr yn ymwybodol bod rhaid iddynt wisgo gwregys diogelwch. Mae teithwyr sy'n 14 oed a hŷn yn gyfreithiol gyfrifol am wisgo gwregys diogelwch os oes un ar gael.

Yn ôl i frig y tudalen

 

Rhan Un

2.0 Cymwysterau Safonol a Diffiniadau

2.1 Diffiniad o ysgol/safle addas a diffiniad o ysgol ddalgylch

2.1.1 Mae adran 1.38 o Teithio gan Ddysgwyr: Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol (Mehefin 2014) yn nodi mai'r "diffiniad o 'ysgol addas agosaf' yw ble mae'r "addysg neu'r hyfforddiant yn addas ar gyfer oed, gallu a dawn y dysgwr ac unrhyw anawsterau dysgu a allai fod ganddo".

2.1.2 Mae adran 1.39 o Teithio gan Ddysgwyr: Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol (Mehefin 2014) yn nodi mai "mater i'r awdurdod lleol yw penderfynu pa ysgol addas yw'r un 'agosaf' i'r dysgwr, yn unol â'i bolisi teithio gan ddysgwyr a'i bolisi addysg."

2.1.3 Ni fydd ysgol prif ffrwd yn cael ei hystyried yn 'ysgol addas' gan yr awdurdod lleol oni bai bod yr addysg a ddarperir yno yn addas, ar gyfer oedran, gallu a doniau'r dysgwr ac unrhyw anawsterau dysgu a allai fod ganddo.

2.1.4 At ddibenion y polisi hwn, pan fo ysgol yn gweithredu o fwy nag un safle, dim ond i'r safle agosaf sy'n darparu addysg drwy'r cyfrwng iaith a ddewisir y byddai'r Awdurdod yn darparu cludiant i ddysgwyr cymwys.

2.1.5 Mae ysgol ddalgylch yn golygu yr ysgol y mae dysgwyr sy'n byw mewn ardal ddaearyddol benodol yn gymwys i'w mynychu.

2.1.6 Bydd trefniadau cludiant ar gyfer dysgwr ag ADY yn seiliedig ar ei anghenion a'r llwybr y mae'n teithio arno. Ceir rhagor o wybodaeth yn Atodiad 1.

Yn ôl i frig y tudalen

2.2 Diffiniad o fan preswyl arferol

Os oes gan ddysgwr fwy nag un cartref, er enghraifft pan nad yw ei rieni'n byw gyda'i gilydd ond ei fod ef yn byw'n rhannol gyda'r ddau riant, neu gyda rhiant ac mewn cartref dysgwr hefyd, bydd y ddau fan preswyl yn cael eu hystyried fel ei fannau preswylio arferol. Os oes mwy na dau le o'r fath, yna dim ond y ddau le sydd agosaf at yr ysgol/safle addas agosaf yn y dalgylch neu'r safle coleg addysg bellach agosaf fydd yn cyfrif.

Mae 'rhiant' yn cynnwys unrhyw unigolyn nad yw'n rhiant ond sydd â chyfrifoldeb rhiant neu sy'n gofalu am y dysgwr.

Yn ôl i frig y tudalen

2.3 Cymhwyster safonol - dysgwyr ysgol gynradd (Dosbarth Derbyn i Blwyddyn 6)

2.3.1 I fod yn gymwys i gael cludiant i'r ysgol, mae'n rhaid i ddysgwyr ysgolion cynradd fyw 2 filltir neu fwy oddi wrth yr ysgol neu'r ganolfan ddalgylch, neu'r ysgol neu'r ganolfan addas agosaf, gan fesur y ffordd fyrraf sydd ar gael. Caiff y pellter ei fesur o'r pwynt mynediad agosaf ar y briffordd gyhoeddus (a allai gynnwys llwybrau troed a llwybrau ceffylau addas) at fan preswyl arferol y dysgwr sydd agosaf at yr ysgol ac a fesurir at giât agosaf yr ysgol. Ystyrir bod y llwybr troed neu'r llwybr ceffyl yn addas os oes ganddo wyneb carreg neu darmac. Ni chaiff wyneb arall ei ystyried yn addas oni bai y gellir cerdded arno mewn esgidiau ysgol arferol. Fel rheol, ni chaiff cludiant ei ddarparu o'r cartref, ond o fan casglu dynodedig. Caiff y mesuriad ei wneud gan ddefnyddio'r System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS).

2.3.2 Darperir cludiant gwennol ar gyfer dysgwyr oedran cynradd cymwys y mae eu pwynt priffordd cyhoeddus agosaf filltir neu fwy o'r man codi agosaf ar brif lwybr cludiant i'r ysgol.

2.3.3 Pan fo rhieni/gofalwyr yn ffafrio ysgol heblaw'r ysgol ddalgylch neu'r ysgol addas agosaf, mae'n rhaid iddynt wneud eu trefniadau cludiant eu hunain a hwy sy'n gyfrifol am yr holl gostau cludiant.

Yn ôl i frig y tudalen

 

2.4 Cymhwyster safonol - dysgwyr ysgol uwchradd (11-16 oed)

2.4.1 I fod yn gymwys i gael cludiant i'r ysgol, mae'n rhaid i ddysgwyr ysgolion uwchradd 11-16 oed fyw dair milltir neu fwy oddi wrth yr ysgol uwchradd neu'r ganolfan ddalgylch, neu'r ysgol uwchradd neu'r ganolfan addas agosaf, gan fesur y ffordd fyrraf. Caiff y pellter ei fesur o'r pwynt mynediad agosaf ar y briffordd gyhoeddus (a allai gynnwys llwybrau troed a llwybrau ceffylau addas) at fan preswyl arferol y dysgwr sydd agosaf at yr ysgol ac a fesurir at giât agosaf yr ysgol. Ystyrir bod y llwybr troed neu'r llwybr ceffyl yn addas os oes ganddo wyneb carreg neu darmac. Ni chaiff wyneb arall ei ystyried yn addas oni bai y gellir cerdded arno mewn esgidiau ysgol arferol. Fel rheol, ni chaiff cludiant ei ddarparu o'r cartref, ond o fan casglu dynodedig. Caiff y mesuriad ei wneud gan ddefnyddio'r GIS.

2.4.2 Darperir cludiant gwennol i ddysgwyr ysgol uwchradd cymwys o'r man preswylio arferol pan fo eu pwynt priffordd cyhoeddus agosaf ddwy filltir neu fwy o'r man codi agosaf ar brif lwybr cludiant i'r ysgol. Caiff y mesuriad ei wneud gan ddefnyddio'r GIS.

2.4.3 Mae'r Awdurdod yn cydnabod ei rwymedigaethau o dan Ddeddf Addysg 1996 i gydymffurfio â dewisiadau rhieni o ran dewis ysgol. Fodd bynnag, pan fo rhieni/gofalwyr yn ffafrio ysgol heblaw'r ysgol ddalgylch neu'r ysgol addas agosaf, mae'n rhaid iddynt wneud eu trefniadau cludiant eu hunain a hwy sy'n gyfrifol am yr holl gostau cludiant.

2.4.4 Pan fo cludiant cyhoeddus ar gael, ac yn unol ag Adran 88 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985, caiff ei ddefnyddio fel y dewis cyntaf a chaiff trwydded ei chyflwyno. Pan nad oes cludiant cyhoeddus ar gael yna bydd yr Awdurdod yn trefnu cludiant i ddysgwyr cymwys. NID yw gwasanaeth bws lleol yn fws penodedig rhwng y cartref a'r ysgol a bydd disgwyl i ddysgwyr deithio gydag aelodau o'r cyhoedd. Ar hyn o bryd, nid yw'r gyfraith yn rhagnodi bod angen gosod gwregysau diogelwch ar gerbydau gwasanaeth bws lleol a chaniateir i deithwyr sefyll ar y cerbydau hyn.

Yn ôl i frig y tudalen

 

2.5 Cludiant ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed

Nid yw'n ofynnol i'r awdurdod lleol ddarparu cludiant ysgol neu goleg am ddim i unrhyw ddysgwr sydd dros yr oedran ysgol gorfodol.

Sicrheir bod cludiant ar gael i ddysgwyr llawn amser sy'n byw 3 milltir neu fwy o'r ysgol uwchradd neu'r safle coleg addysg bellach dalgylch, neu'r ysgol uwchradd neu safle coleg addysg bellach addas agosaf sy'n cynnig darpariaeth ôl-16. Fel rheol, ni chaiff cludiant ei darparu o'r cartref, ond o fan casglu dynodedig.

Darperir cludiant gwennol i ddysgwyr cymwys sy'n byw 3 milltir neu fwy o'r man codi agosaf ar brif lwybr cludiant i'r ysgol fel y'i mesurir gan ddefnyddio'r llwybr agosaf sydd ar gael. Caiff y mesuriad ei wneud gan ddefnyddio'r GIS.

Drwy'r trefniadau cydweithredol a roddwyd ar waith i sicrhau bod pob dysgwr yn gallu defnyddio cwricwlwm lleol sy'n bodloni'r hawliau gofynnol sy'n ofynnol gan Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009, mae'r Awdurdod o'r farn bod ei holl ysgolion uwchradd yn cynnig darpariaeth ôl-16 berthnasol gydag amrywiaeth ddigonol. Dim ond dysgwyr y mae eu man preswyl arferol yn sir Powys y bydd yr Awdurdod yn eu cludo i'r ysgol/coleg sef yr ysgol addas agosaf yn ddaearyddol i fan preswyl arferol y dysgwr.

Diffinnir y safle coleg addysg bellach agosaf fel y safle dalgylch neu'r safle addas agosaf i fan preswyl arferol y dysgwr, sy'n cynnig cwrs addas. Ni fydd yr Awdurdod yn darparu cludiant i alluogi dysgwyr i fynychu sefydliadau y tu allan i'r sir, ond mewn rhai amgylchiadau gallai ddarparu cymorth gyda'r costau teithio e.e. os mai'r sefydliad a fynychir yw'r ddarpariaeth addas agosaf at fan preswylio arferol y dysgwr.

Nid yw'r Awdurdod yn darparu cludiant rhwng y cartref a'r ysgol ar gyfer dysgwyr sy'n byw y tu allan i ffiniau'r sir sy'n dymuno cael addysg ôl-16 mewn ysgol uwchradd ym Mhowys, ond darperir cludiant i hwyluso presenoldeb yn rhan o'r trefniant cydweithredol rhwng safleoedd coleg ac ysgolion uwchradd Powys. Pan fo cludiant cyhoeddus ar gael, caiff ei ddefnyddio fel y dewis cyntaf a chaiff trwydded ei chyflwyno. Pan nad oes cludiant cyhoeddus ar gael yna bydd yr Awdurdod yn trefnu cludiant i fyfyrwyr cymwys.

Dim ond ar gyfer cyrsiau llawn amser y bydd cludiant yn cael ei ddarparu, fel y penderfynir gan y coleg a fynychir a chyda cytundeb yr Awdurdod.

Ni wneir unrhyw drefniadau cludiant ar gyfer dysgwyr sydd ar gyrsiau rhan-amser, ond efallai y byddant yn gallu cael seddi ar gludiant cyhoeddus wrth dalu'r tâl priodol. Fodd bynnag, os nad yw dysgwr ôl-16 yn gallu dilyn cwrs llawn amser oherwydd amgylchiadau personol, er enghraifft, oherwydd ei fod yn 'ofalwr ifanc', yna bydd hawl yn cael ei ystyried ar sail unigol gan Uwch Dîm Rheoli'r Gwasanaeth Ysgolion a'r Swyddogion Hawliau Cludiant.

Yn ôl i frig y tudalen

2.6 Darpariaeth ar gyfer dysgwyr sy'n mynychu ysgolion arbennig a chanolfannau arbenigol sydd yn gysylltiedig ag ysgolion prif ffrwd

Mae Atodiad Ai'r polisi hwn yn darparu gwybodaeth sy'n ymwneud â darpariaeth cludiant ar gyfer dysgwyr sy'n manteisio ar ddarpariaeth canolfan arbenigol neu ysgol arbennig.

Yn ôl i frig y tudalen

 

2.7 Trefniadau arbennig ar gyfer dysgwyr ag anghenion meddygol byrdymor

Ystyrir caniatáu darpariaeth ar gyfer pob dysgwr sydd ag angen meddygol byrdymor yn hytrach na'r rhai sy'n gymwys i gael cludiant ar sail pellter yn unig. Cyflwr sy'n gwella neu nad yw'n bodoli mwyach yn dilyn cyfnod o ymyrraeth feddygol yw angen meddygol byrdymor e.e. braich neu goes sydd wedi torri. Ym mhob achos, i'r dalgylch neu'r ysgol addas agosaf yn unig y darperir cludiant.

Dylid cyflwyno ceisiadau gyda thystiolaeth gan weithiwr proffesiynol meddygol naill ai drwy ysgrifennu at Swyddogion Hawliau Cludiant yr Awdurdod neu drwy e-bostio admissionsandtransport@powys.gov.uk. Caiff y ddarpariaeth ei hadolygu bob tymor.

Yn ôl i frig y tudalen

 

2.8 Darparu cynorthwywyr teithwyr ar gerbydau cludiant

 

Ni ddarperir cynorthwywyr teithwyr ar gerbydau cludiant i ysgolion prif ffrwd fel arfer. Gwneir penderfyniad ynghylch yr angen am gynorthwywr teithiwr i gynorthwyo disgybl/dysgwr unigol ar gerbyd ar ôl i Asesiad Risg gael ei gwblhau gan yr Awdurdod.

Darperir cynorthwywyr teithwyr ar gerbydau i oruchwylio dysgwyr ar eu teithiau i ysgolion arbennig/canolfannau arbenigol sy'n gysylltiedig ag ysgolion prif ffrwd ac oddi yno pan fo dau neu fwy o ddysgwyr. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yr angen yn cael ei gadarnhau yn ystod y broses datganiad/adolygiad a bydd yn unol ag anghenion y dysgwr. Ar gyfer dysgwyr y mae arnynt angen cludiant unigol, caiff darpariaeth cynorthwywr ei chymhwyso drwy'r ffurflen gais am gludiant pan fo swyddogion yn nodi'r angen, a chyda rhanddeiliaid allweddol pan fo hynny'n berthnasol. Cadarnheir y gofynion gan Reolwr ADY yr Awdurdod.

Yn ôl i frig y tudalen

 

2.9 Amseroedd teithiau

Wrth asesu anghenion teithio'r dysgwyr, bydd yr Awdurdod yn ystyried y ffaith fod yn rhaid i drefniadau teithio fod yn ddiogel ac yn rhesymol.

Fel arfer, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol, bydd yr Awdurdod yn ceisio sicrhau na fydd dysgwr sy'n cael ei gludo i'w ysgol/safle dalgylch neu brif ffrwd addas agosaf yn cael taith unigol sy'n hwy na 45 munud ar gyfer ysgolion cynradd a 60 munud ar gyfer ysgolion uwchradd yn unol â Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Pan fo rhieni/gofalwyr yn mynegi bod yn well ganddynt ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg neu Saesneg pan nad yw hyn ar gael yn eu hysgol dalgylch neu ysgol agosaf, gallai amserau teithio fod yn hwy.

Bydd yr Awdurdod yn ceisio sicrhau na fydd dysgwr sy'n cael ei gludo i ysgol arbennig/canolfan arbenigol sydd yn gysylltiedig ag ysgol prif ffrwd fel arfer yn cael taith unigol sy'n hwy na 45 munud ar gyfer disgyblion/dysgwyr oed cynradd a 60 munud ar gyfer disgyblion/dysgwyr oed uwchradd. Fodd bynnag, oherwydd eu dalgylch ehangach a daearyddiaeth y Sir, mae'n bosibl na fydd hyn yn bosibl bob amser. Pan fo amgylchiadau meddygol penodol yn berthnasol a allai olygu bod angen amser teithio llai, bydd yr achos yn cael ei drin yn unol â'i rinweddau drwy'r weithdrefn apeliadau.

Yn ôl i frig y tudalen

 

2.10 Mesur llwybrau a milltiredd ('llwybrau sydd ar gael')

Bydd y terfynau dwy a thair milltir yn y polisi yn cael eu mesur yn yr un modd â'r 'pellter cerdded statudol' h.y. ar hyd y llwybr agosaf sydd ar gael. Ni fydd llwybr sydd ar gael o angenrheidrwydd yn darparu'r pellter lleiaf ar y ffordd fawr gan ei fod yn cael ei fesur gan ddefnyddio'r llwybr byrraf y gallai dysgwr gerdded arno'n rhesymol ddiogel, gydag oedolyn cyfrifol fel y bo'r angen. Gallai llwybrau o'r fath gynnwys llwybrau cyhoeddus nad ydynt yn addas ar gyfer cerbydau modur.

Pan fo rhaid cyfrifo milltiroedd a llwybrau er mwyn penderfynu a yw cais yn gymwys o dan y polisi, caiff y mesuriadau eu gwneud gan ddefnyddio GIS.

Yn ôl i frig y tudalen

2.11 Ymddygiad

Mae'r Cod Ymddygiad wrth Deithio yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan ddysgwyr sy'n teithio i'w man dysgu ac oddi yno. Gall yr Awdurdod wrthod cludo dysgwyr os nad ydynt yn dilyn y Cod Ymddygiad wrth Deithio. Cynghorir rhieni/gofalwyr

i wneud eu dysgwyr yn ymwybodol o'r Cod

Ni chaniateir unrhyw fath o aflonyddwch. Nid yw camdriniaeth a thrais yn erbyn staff a/neu ddefnyddwyr y gwasanaeth a difrod i gerbydau yn dderbyniol. Bydd ymddygiad o'r fath yn golygu y bydd y dysgwr yn colli ei hawl i gael cludiant am ddim. Gallai'r rhiant/gofalwr fod yn gyfrifol am ad-dalu'r gweithredydd am unrhyw ddifrod a achosir gan y dysgwr ac mae'n bosibl y bydd yr awdurdodau perthnasol yn cael gwybod amdano pan fo hynny'n briodol. Os bydd dysgwr yn colli'r hawl i gael cludiant, cyfrifoldeb rhieni/gofalwyr y dysgwr yw trefnu cludiant addas i'w fan dysgu ac oddi yno ar gyfer y cyfnod y tynnir yr hawl i gael cludiant oddi arno.

Yn ôl i frig y tudalen

2.12 Camerâu

Bydd teledu cylch cyfyng yn cael ei osod mewn rhai cerbydau contract i sicrhau diogelwch teithwyr a gyrwyr, ac er mwyn adnabod unigolion sy'n ymddwyn yn annerbyniol.

Pan fo teledu cylch cyfyng yn cael ei ddefnyddio, gwneir rhieni/gofalwyr a dysgwyr yn ymwybodol bod gwasanaethau recordio ar waith, gan gynnwys manylion ynghylch cyfrinachedd, defnydd, storio a chadw delweddau.

Yn ôl i frig y tudalen

2.13 Newid yn amserau sesiynau'r ysgol

O dan Reoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2009, pan fo'r Awdurdod o'r farn bod angen newid amserau sesiynau ysgolion i wneud trefniadau teithio yn fwy effeithlon ac effeithiol, bydd yn cynnal ymgynghoriad priodol i newid amser dechrau sesiwn gyntaf (bore) yr ysgol ac amser gorffen yr ail sesiwn (prynhawn).

Yn ôl i frig y tudalen

2.14 Diogelu

Mae'r Awdurdod yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys cyrff llywodraethu, penaethiaid, ysgolion, y Bwrdd Diogelu Plant Lleol, gweithredwyr, rhieni/gofalwyr ac asiantaethau eraill i rannu gwybodaeth ac arferion gorau er mwyn helpu i ddiogelu dysgwyr sy'n teithio i'r ysgol ac oddi yno.

Mae'n rhaid codi unrhyw faterion sy'n ymwneud â diogelu dysgwyr gyda'r Awdurdod cyn gynted â phosibl yn dilyn unrhyw ddatgeliad. Gallai sicrhau bod yr arweinydd diogelu plant / pennaeth yr ysgol yn ymwybodol o unrhyw bryderon diogelu fod yn briodol hefyd. Os oes perygl uniongyrchol i berson ifanc, dylai'r gyrrwr ddeialu 999.

Bydd gwiriadau diogelu gofynnol (cliriad uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) yn cael eu cynnal gan weithredwyr ar bob gyrrwr bws, gyrrwr tacsi a chynorthwywr teithiwr bob 3 blynedd. Mae'n ofynnol bod pob gyrrwr yn ymgymryd â hyfforddiant diogelu gyda'r Awdurdod. Maent hefyd yn cwblhau hyfforddiant ar-lein drwy'r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant. Yn ystod y broses dendro, mae'n rhaid i bob contractwr ddangos ei fod yn glynu wrth bolisi diogelu.

Yn ôl i frig y tudalen

2.15 Tywydd gwael

Yn ystod cyfnodau o dywydd gwael, gallai'r awdurdod lleol neu'r contractwr ohirio darpariaeth o gludiant rhwng y cartref a'r ysgol. Gwneir pob ymdrech i gysylltu â rhieni/gofalwyr i roi gwybod iddynt fod yr ysgol wedi cau. Pan fydd angen mynd â dysgwyr adref yn gynharach na'r amser cau arferol, bydd yr ysgol yn cysylltu â'r rhieni/gofalwyr i roi gwybod iddynt fod yr ysgol wedi cau er mwyn sicrhau diogelwch y disgyblion ar ôl iddynt adael yr ysgol. Pan fo rhieni/gofalwyr yn cludo dysgwyr i'r ysgol yn y bore pan eu bod fel arfer yn teithio ar gerbyd cludiant o'r cartref i'r ysgol, hwy sy'n gyfrifol am eu casglu ar ddiwedd y diwrnod ysgol.

Yn ôl i frig y tudalen

2.16 Y weithdrefn apelio

Bydd yr hawl i gael cludiant i'r ysgol am ddim yn cael ei benderfynu gan y Prif Swyddog: Derbyniadau a Chludiant. Pan fo cais yn cael ei wrthod, bydd y rhieni/gofalwyr yn cael gwybod am y rheswm/rhesymau dros beidio â dyfarnu cludiant am ddim iddynt.

Mae gan rieni/gofalwyr yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyfarnu darpariaeth o gludiant i'r ysgol am ddim i'w plentyn. Mae'n rhaid i apeliadau gael eu gwneud yn ysgrifenedig, gan nodi'r rheswm/rhesymau dros yr apêl, i: Gwasanaeth Derbyniadau a Chludiant Ysgolion, Neuadd y Sir, Spa Road East, Llandrindod, Powys, LD1 5LG / buses@powys.gov.uk

Os caiff yr apêl ei gwrthod, mae gan rieni/gofalwyr yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn drwy anfon llythyr apêl at y Pennaeth Addysg o fewn pythefnos i ddyddiad y llythyr. Deiliad y Portffolio fydd yn gwrando ar apeliadau. Bydd yr apêl yn cael ei threfnu a'i chefnogi gan Wasanaethau Cyfreithiol yr Awdurdod.

Mae hawl i apelio ynghylch pwynt cyfreithiol, drwy gyfrwng Adolygiad Barnwrol. Mae'n rhaid arfer yr hawl o fewn 6 wythnos i'r penderfyniad.

Mae hawl i apelio ar faterion gweithdrefnol hefyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, CF35 5LJ .

Yn ôl i frig y tudalen

2.17 Cwynion

Ymchwilir i bob cwyn sy'n ymwneud â chludiant rhwng y cartref a'r ysgol gan ddysgwyr, rhieni/gofalwyr, aelodau o'r cyhoedd, gyrwyr, ac ati.

2.17.1 Ymddygiad dysgwyr

Dylai unrhyw bryderon neu gwynion ynghylch ymddygiad dysgwyr gael eu gwneud, cyn gynted â phosibl ar ôl y digwyddiad, i'r ysgol ac i: Gwasanaeth Derbyniadau a Chludiant Ysgolion, Neuadd y Sir, Spa Road East, Llandrindod, Powys, LD1 5LG, drwy lenwi'r ffurflen ar-lein y gellir ei gweld yn y fan yma http://www.powys.gov.uk/ên/schoolsstudents/apply-for-school-transport/

2.17.2 Ansawdd y Ddarpariaeth

Dylai unrhyw bryderon neu gwynion ynghylch gyrwyr, cynorthwywyr teithwyr neu gerbydau a ddefnyddir ar gyfer cludiant i'r ysgol gael eu gwneud yn ysgrifenedig i'r Rheolwr Cludiant Teithwyr, Gwasanaeth Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Ailgylchu, Neuadd y Sir, Llandrindod, LD1 5LG.

2.17.3 Cydymffurfio â'r Contract

Yn ogystal â gwiriadau diogelwch cerbydau statudol, ar ddiwrnodau amhenodol, bydd yr Awdurdod yn cynnal gwiriadau ar hap ar gerbydau a gontractiwyd gan yr Awdurdod er mwyn sicrhau y cydymffurfir â chontractau.

Yn ôl i frig y tudalen

 

Rhan Dau

3.0 Cludiant ar gyfer Amgylchiadau Unigol

3.1 Cludiant sy'n ymwneud ag apeliadau derbyn

Bydd yr Awdurdod yn darparu cludiant i ddysgwyr sy'n bodloni'r meini prawf cymhwyster pellter safonol y gwrthodir eu derbyn i'w hysgol ddalgylch neu ysgol addas agosaf drwy apêl derbyn, i'w galluogi i fynychu'r ysgol addas arall agosaf a ragnodir gan yr Awdurdod.

Yn ôl i frig y tudalen

3.2 Cludiant i ysgolion lle mae gormod o alw am leoedd

Bydd yr Awdurdod yn darparu cludiant i ddysgwyr cymwys sy'n preswylio ym Mhowys i'r ysgol addas arall agosaf pan na all yr Awdurdod wneud trefniadau i ddysgwr fynychu eu hysgol ddalgylch neu eu hysgol addas agosaf oherwydd eu bod yn llawn. Bydd yr Awdurdod yn cynnal trafodaeth lawn gyda'r ysgol ynghylch ei gallu i dderbyn plentyn/person ifanc yn rhan o'r broses apelio (gweler 2.16).

Yn ôl i frig y tudalen

3.3 Darpariaeth o gludiant wrth gau ysgol

Yn ystod ymgynghoriad ar gau ysgol yn barhaol, bydd yr Awdurdod yn ymgynghori ynghylch y dalgylch diwygiedig ar gyfer yr ysgol(ion) sy'n derbyn a enwir. Ar ôl cau ysgol yn barhaol, bydd cludiant yn cael ei darparu i'r ysgol(ion) sy'n derbyn a enwir ar gyfer dysgwyr sy'n byw yn nalgylch estynedig yr ysgol newydd. Ar gyfer dysgwyr sy'n byw y tu allan i ddalgylch estynedig yr ysgol sy'n derbyn a enwir, bydd darparu cludiant yn cael ei ystyried. Ni fydd y ddarpariaeth hon yn berthnasol i frodyr a chwiorydd iau yn awtomatig.

Yn ôl i frig y tudalen

 

3.4 Cludiant i ysgolion enwadol

Dim ond i ddysgwyr sy'n gymwys o dan y meini prawf cymhwyster safonol y darperir cludiant i ysgolion enwadol (gweler 2.3 a 2.4).

Yn ôl i frig y tudalen

3.5 Cludiant yn dilyn newid yn y man preswylio arferol

Gallai'r Awdurdod ddarparu cludiant i ddysgwyr yn dilyn newid i'w man preswylio arferol o fewn ffiniau'r Sir yn ystod Blynyddoedd 10 neu 11 (cwrs arholiad TGAU) neu Flynyddoedd 12 a 13 (cwrs arholiad Safon Uwch), er mwyn sicrhau parhad i'w haddysg.

Mae'n rhaid i rieni/gofalwyr wneud cais drwy gwblhau a chyflwyno ffurflen gais safonol i'r Gwasanaeth Derbyniadau a Chludiant Ysgolion, Neuadd y Sir, Llandrindod, LD1 5LG / admissionsandtransport@powys.gov.uk a bydd y Pennaeth Addysg yn penderfynu ar yr hawl. Os darperir cludiant, bydd o bwynt ar hyd y llwybr cludiant sydd eisoes yn bodoli, cyn belled â bod sedd ar gael. Ni fydd darpariaeth o'r fath yn parhau ym Mlynyddoedd 12 a 13 pan fo dysgwyr yn symud ym Mlynyddoedd 10 neu 11.

Yn ôl i frig y tudalen

3.6 Cludiant ar gyfer y blynyddoedd cynnar

Dim ond ar gyfer dysgwyr sy'n mynychu'r ysgol yn llawn amser y darperir cludiant h.y. y dysgwyr hynny sy'n cael eu derbyn i'r ysgol ar ddechrau'r flwyddyn ysgol ar ôl iddynt gyrraedd eu 4ydd pen-blwydd.

Yn ôl i frig y tudalen

3.7 Taliadau i rieni/gofalwyr

Mewn ardaloedd anghysbell pan na fyddai'n ymarferol i'r Awdurdod ddarparu cludiant i ddysgwyr cymwys, gellir ceisio dod i gytundeb â rhieni/gofalwyr fel eu bod nhw'n cludo eu plentyn/plant i/o'r ysgol ar ôl talu cyfradd lwfans tanwydd cytunedig iddynt. Bydd achosion o'r fath yn cael eu hystyried ar sail unigol a bydd trefniadau'n cael eu hadolygu'n rheolaidd.

Yn ôl i frig y tudalen

3.8 Cludiant sy'n ymwneud â darpariaeth cyfrwng Cymraeg/Saesneg

3.8.1 Cynradd

Yn y sector cynradd, darperir cludiant i'r ddarpariaeth ddalgylch neu'r ddarpariaeth addas agosaf sy'n darparu addysg naill ai drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg. I fod yn gymwys, mae'n rhaid i ddysgwyr fodloni'r meini prawf cymhwyso safonol (gweler 2.3). Ystyrir bod y ddarpariaeth addysg yn gyfartal pa un a yw'r ysgol yn ysgol cyfrwng Cymraeg neu Saesneg neu ei bod hi'n cyflwyno'r ddwy iaith drwy drefniant dwy ffrwd.

3.8.2 Uwchradd

Yn y sector uwchradd, darperir cludiant i'r ddarpariaeth ddalgylch neu'r ddarpariaeth addas agosaf sy'n darparu addysg naill ai drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg. I fod yn gymwys, mae'n rhaid i ddysgwyr fodloni'r meini prawf cymhwyso safonol (gweler 2.4).

3.8.3 Ar gyfer dysgwyr oedran cynradd ac uwchradd, bydd yr hawl i gael cludiant yn dod i ben os bydd dysgwr yn symud rhwng ffrydiau mewn ysgol ac nad yw'r ysgol mwyach yn nalgylch y dysgwr neu nad honno yw'r ysgol addas agosaf ar gyfer dewis iaith y ddarpariaeth.

Yn ôl i frig y tudalen

 

3.9 Darparu cludiant ar sail diogelwch

Darperir cludiant am ddim i ddysgwyr oedran ysgol statudol pan fo'r Awdurdod yn fodlon bod y llwybr rhwng y cartref a'r ysgol yn anniogel i'w ddefnyddio gan ddysgwr yng nghwmni person cyfrifol, megis rhiant/gofalwr neu oedolyn arall, er bod y pellter yn is na'r meini prawf cymhwyster pellter safonol (gweler 2.3 a 2.4). Caiff rhieni/gofalwyr wneud cais ysgrifenedig i'r Gwasanaeth Derbyniadau a Chludiant Ysgolion, Neuadd y Sir, Llandrindod, LD1 5LG / buses@powys.go.uk. Gwneir penderfyniad ar y ddarpariaeth ar ôl i Asesiad Risg gael ei gwblhau gan swyddogion sydd â'r cymwysterau priodol yn yr Awdurdod Lleol.

Yn ôl i frig y tudalen

 

3.10 Cludiant sy'n gysylltiedig â gwasanaethau cyfeirio disgyblion

Efallai y bydd angen i ddysgwyr sy'n defnyddio'r Unedau Atgyfeirio Disgyblion neu sy'n dilyn cwricwlwm amgen deithio i ganolfannau gwahanol i gael darpariaeth yn ystod yr wythnos. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd yr Awdurdod yn darparu cludiant rhwng y cartref a'r ysgol bob dydd i'r canolfannau a fynychir gan ddysgwr yn wythnosol, yn ddibynnol ar y meini prawf cymhwyster pellter safonol (gweler 2.3 a 2.4). Gan y gall trefniadau fod yn eithaf hyblyg ar brydiau, gallai fod yn angenrheidiol newid lleoliadau addysgol ac, o dan yr amgylchiadau hyn, bydd trefniadau cludiant yn cael eu newid yn unol â hynny.

Pan fo cludiant rhwng y cartref a'r ysgol wedi'i drefnu, fel arfer, bydd disgwyl i ddysgwyr sy'n defnyddio'r Gwasanaethau Atgyfeirio Disgyblion deithio ar gludiant prif ffrwd rhwng y cartref a'r ysgol pan fo hynny'n briodol.

Y Pennaeth Addysg fydd yn penderfynu ar drefniadau penodol eraill yn seiliedig ar anghenion y dysgwr unigol.

Yn ôl i frig y tudalen

 

3.11 Cludiant i ddiwallu anghenion Plant sy'n Derbyn Gofal

Mae'r un meini prawf oedran a phellter yn berthnasol i Blant sy'n Derbyn Gofal a Phlant a arferai Dderbyn Gofal. Mater i'r Awdurdod â chyfrifoldeb rhiant dros ofalu am ddysgwr yw penderfynu pa ysgol y dylai ei mynychu. Gallai fod yn ysgol heblaw'r ysgol ddalgylch neu'r ysgol addas sydd agosaf at ei fan preswyl presennol oherwydd, er enghraifft, blaenoriaeth i gynnal parhad yn ei addysg neu gyswllt gyda brodyr a chwiorydd neu ffrindiau. Bydd y Gwasanaeth Ysgolion yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn y Gwasanaethau i Blant i sicrhau bod gofynion addysg a gofal y dysgwr yn cael eu bodloni'n llawn.

Pan nad yw'r ysgol arfaethedig yr ysgol addas agosaf o fan preswyl presennol y dysgwr, bydd swyddogion o'r Gwasanaeth Ysgolion a'r Gwasanaeth i Blant yn cysylltu ynghylch unrhyw gostau ychwanegol o ran darparu cludiant o'r fath. Caiff y gost ychwanegol hon ei chofnodi fel cyllideb ar wahân o dan y gyllideb cludiant rhwng y cartref a'r ysgol.

Yn ôl i frig y tudalen

 

3.12 Cludiant sy'n ymwneud â gwaharddiadau parhaol a symudiadau a reolir

Bydd yr Awdurdod yn darparu cludiant i ddysgwyr sydd wedi eu gwahardd yn barhaol neu ddysgwyr sy'n destun symudiadau a reolir sy'n bodloni'r meini prawf cymhwyster pellter safonol (gweler 2.3 a 2.4) i'w galluogi i fynychu'r ysgol arall briodol agosaf a ragnodwyd gan yr Awdurdod.

Yn ôl i frig y tudalen

3.13 Diwrnodau cynefino ysgolion uwchradd

Os ydynt yn bodloni'r meini prawf cymhwyster pellter safonol (gweler 2.3 a 2.4) a bod sedd ar gael, caiff dysgwyr sy'n dechrau Blwyddyn 7 ym mis Medi ddefnyddio cludiant presennol yr ysgol wrth fynd i ddiwrnodau cynefino.

Yn ôl i frig y tudalen

3.14 Cludiant ar gyfer lleoliadau profiad gwaith

Nid oes gan ddysgwyr hawl i gael cludiant er mwyn ymgymryd â lleoliadau profiad gwaith. Er hynny, os oes lle, caiff dysgwyr ddefnyddio cludiant presennol os oes sedd ar gael ac nad oes cost ychwanegol i'r Awdurdod.

Yn ôl i frig y tudalen

3.15 Cynllun Talu am Seddi Gwag

Caiff dysgwyr nad ydynt yn bodloni'r meini prawf cymhwyso safonol (gweler 2.3 a 2.4) ac sy'n byw o fewn y pellter cerdded statudol o'r ysgol ac sy'n byw yn agos at/ar lwybr cludiant penodedig sydd eisoes yn bodoli rhwng y cartref a'r ysgol wneud cais am le o dan y Cynllun Talu am Seddi Gwag wrth dalu'r ffi briodol. Ar gerbydau sydd wedi eu contractio yn unig y bydd y Cynllun Taliad Sedd Wag ar gael h.y. ni fydd yn gymwys ar gerbydau gwasanaeth cyhoeddus. Bydd cludiant yn cael ei dynnu'n ôl os bydd angen y sedd ar gyfer dysgwr cymwys. Rhoddir o leiaf wythnos o rybudd. Caiff y ffi Cynllun Talu am Seddi Gwag ei hepgor o dan amgylchiadau penodol e.e. ar gyfer dysgwyr oedran ysgol statudol sy'n byw o fewn y ffiniau'r Sir ac sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Caiff y tâl am seddi gwag ei adolygu'n flynyddol a bydd yn cael ei gynyddu yn unol â pholisi'r Cyngor.

Yn ôl i frig y tudalen

3.16 Trefniadau pontio

Os oes newid i Bolisi Cludiant Rhwng y Cartref a'r Ysgol yr Awdurdod lleol, neu os oes newid i ddalgylch yr ysgol, bydd y trefniadau pontio canlynol yn berthnasol er mwyn galluogi dysgwr i gwblhau ei addysg:

  • Hyd at ddiwedd y cyfnod cynradd ar gyfer dysgwr Dosbarth Derbyn i Blwyddyn 6;
  • Hyd at ddiwedd Cyfnod Allweddol 4 (oedran ysgol statudol) ar gyfer dysgwr ym Mlynyddoedd 7-11;
  • Hyd at ddiwedd Cyfnod Allweddol 5 (16-18 oed) ar gyfer dysgwr ym Mlynyddoedd 12-13.

Yn ôl i frig y tudalen

Atodiad A

Cymhwystra ar gyfer dysgwyr oedran ysgol statudol sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), anableddau parhaol neu broblemau symudedd (gan gynnwys dysgwyr Ôl-16)

1.0 Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i roi cymorth gyda theithio pan eu bod nhw'n ystyried bod hyn yn angenrheidiol i sicrhau presenoldeb dysgwr yn yr ysgol. Nid yw'r gyfraith yn trin dysgwyr ag anableddau parhaol yn wahanol i ddysgwyr eraill yn hyn o beth.

1.1 Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd gyfreithiol i helpu gyda chost cludiant i'r ysgol ac oddi yno os nad yw dysgwr ag anableddau parhaol yn gallu mynychu'r ysgol ddalgylch neu'r ysgol addas agosaf ar gyfer ei oedran a'i anghenion, oni bai bod y cludiant hwnnw yn cael ei darparu. Dylai'r hawl fod yn seiliedig ar anghenion y dysgwr. Ar gyfer ysgol ddalgylch neu'r ysgol addas agosaf y dysgwr yn unig y mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu cludiant am ddim, cyn belled â'i fod y tu hwnt i'r pellter cymhwyso safonol o'i gartref, oni ellir disgwyl yn rhesymol i'r dysgwr gerdded i'r ysgol. Yn ystod y cyfnod asesu, ymgynghorir â'r holl randdeiliaid allweddol gan gynnwys y Gwasanaethau i Blant, Iechyd, Ysgolion, rhieni/gofalwyr, ac yn y blaen.

1.2 Mae mesurau ychwanegol wedi eu nodi yng Nghod Ymarfer AAA Cymru 2002, o dan y pennawd 'Costau Cludiant i Blant â Datganiadau'. Mae hyn yn argymell y dylai fod gan awdurdodau lleol bolisïau cyffredinol clir sy'n ymwneud â chludiant ar gyfer dysgwyr ag anableddau parhaol ac y dylai'r rhain fod ar gael i rieni/gofalwyr. Efallai y bydd cyfrifoldebau ychwanegol ar yr Awdurdod pan fo gan ddysgwr Anghenion Addysgol Arbennig nodedig a ddiffinnir trwy ddatganiad ADY fel y'u diffinnir gan God Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2002.

1.3 O ran y rhai hynny sydd rhwng 16 a 19 oed sydd ag anawsterau a/neu anableddau dysgu, dywed Adran 509 AB(1) o Ddeddf Addysg 1996 y dylai'r Awdurdod nodi yn ei bolisi i ba raddau y mae'r trefniadau a nodwyd ynglŷn â chludiant ôl-16 cyffredinol yn cynnwys trefniadau i hwyluso presenoldeb dysgwyr ag anableddau parhaol mewn ysgolion a chyda darparwyr dysgu.

1.4 Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn bwysig ar gyfer pob oedran ac mae'n cynnwys y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd. Gallai'r Awdurdod ddarparu cludiant am ddim rhwng y cartref a'r ysgol hefyd fel 'addasiad rhesymol' i anabledd y dysgwr mewn achosion pan fo'r dysgwr yn byw o fewn y pellter cymhwyso safonol i'r ysgol ac nad yw'r rhieni/gofalwyr yn gallu cludo'r dysgwr i'r ysgol. Noder: Mae gan unigolyn anabledd (Deddf Cydraddoldeb 2010) os oes ganddo nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar ei allu i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd. Fel arfer, caiff y diffiniad hwn ei ddehongli fel a ganlyn:

  • Nam meddyliol - cyflwr clinigol y gwyddys llawer amdano. Mae hyn yn golygu nad yw dysgwr ag anhawster emosiynol a/neu ymddygiadol yn debygol o gael ei gydnabod fel bod yn anabl oni bai bod ei ymddygiad yn deillio o nam meddyliol sylfaenol.
  • Hirdymor - cyflwr sy'n debygol o bara am flwyddyn o leiaf neu am weddill bywyd y sawl yr effeithir arno. Gall hyn gynnwys cyflyrau ysbeidiol neu achlysurol megis epilepsi neu sglerosis ymledol.
  • Sylweddol - cyflwr sy'n fwy na mân neu ddibwys.
  • Niweidiol - gan gyfeirio at effaith y nam, nid difrifoldeb y nam.
  • Gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd - gallu'r unigolyn i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd, gan gynnwys symudedd, y gallu i ddeall a chanfod y risg o berygl corfforol.
  • Effaith triniaeth feddygol neu driniaeth arall, ar allu'r unigolyn i wneud gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.
  • O dan rai amgylchiadau, gallai cyflyrau sy'n gwaethygu, megis canser a sglerosis ymledol gael eu hystyried yn anableddau.

1.5 Mae Deddf Cydraddoldeb 2010, sy'n cynnwys y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001, yn ei gwneud yn glir bod gan ddysgwyr anabledd anghenion addysgol arbennig os ydynt yn cael unrhyw anhawster sylweddol o ran cael addysg ac os oes arnynt angen i unrhyw ddarpariaeth addysg arbennig gael ei gwneud ar eu cyfer, hynny yw, unrhyw beth sy'n ychwanegol at yr hyn sydd ar gael fel arfer i ysgolion yr ardal, neu'n wahanol i hynny. Mae'r Cod Ymarfer ADY yn disgwyl mai dim ond mewn achosion eithriadol (yn Rhan 6 fel arfer) y dylid cofnodi cludiant yn Natganiad ADY dysgwr, pan fo gan y dysgwr anghenion cludiant penodol.

2.0 Dysgwyr oedran statudol sydd ag anghenion arbennig, anabledd neu anhawster symudedd

2.1 Y dysgwyr sydd wedi eu cynnwys yn y pennawd hwn o'r polisi yw dysgwyr oedran ysgol statudol sydd ag anabledd neu ADY a/neu:

  • Sy'n mynychu darpariaeth arbenigol neu'n mynychu ysgol a enwir y tu hwnt i bellter cymhwyso safonol y cartref a enwir yn y Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig, (gan gynnwys y rhai sy'n mynychu darpariaeth arbenigol o dan asesiad brys)
  • Sydd wedi eu nodi fel bod yn Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy, yn unol â'r Cod Ymarfer ADY, a bod ganddynt anghenion sy'n golygu bod angen cymorth arnynt i gyrraedd yr ysgol
  • Sy'n cael defnyddio darpariaeth arall megis Addysg Heblaw Yn Yr Ysgol,
  • Bod pob dysgwr a leolir gan yr Awdurdod Lleol mewn ysgol arbennig annibynnol, y tu allan i sefydliadau'r Awdurdod Lleol ac felly ei fod y tu hwnt i'r pellter cymhwyso safonol o'r cartref
  • Sy'n mynychu sefydliadau addysg bellach ac yn bodloni'r meini prawf ar gyfer cymorth.

2.2 Diffinnir cludiant ar gyfer y rhai y mae arnynt angen trefniadau arbennig fel cludiant rhwng y cartref a'r ysgol a ddarperir o fannau codi a gollwng diffiniedig (nid stepen y drws o reidrwydd), ar ddechrau a diwedd diwrnod ysgol y dysgwr (sesiynau addysg ffurfiol). Mae hyn drwy ba bynnag fodd sydd fwyaf addas i anghenion teithio unigol y disgybl(ion) neu'r dysgwr/dysgwyr ag anghenion ychwanegol a nodwyd, i'r sefydliad addysgol agosaf sy'n briodol i'w (h)anghenion, neu i'r ysgol a bennir gan yr Awdurdod yn ei ddatganiad o ADY fel bod yr ysgol lle gellir diwallu ei anghenion/eu hanghenion pan fo hyn ymhellach na'r pellter cymhwyso safonol.

2.3 Comisiynir cludiant rhwng y cartref a'r ysgol i ddysgwyr ag anghenion addysgol arbennig neu anabledd ac i ddysgwyr sy'n cael addysg heblaw yn yr ysgol, a/neu'r rhai sydd wedi eu gwahardd yn barhaol, gan yr Uned Cludo Teithwyr a chaiff ei darparu ar eu rhan gan gyflenwr trydydd parti ac mae'n seiliedig ar asesiad o'u hangen am drefniadau arbennig o fewn fframwaith y meini prawf hawl.

2.4 Fel arfer, ystyrir teithiau y tu allan i amseroedd cludiant rhwng y cartref a'r ysgol yn unig os na fydd unrhyw gostau ychwanegol. Os oes costau ychwanegol, caiff y rhain eu talu gan gyllideb ddirprwyedig yr ysgol, cronfeydd y coleg, Cronfeydd Cymorth 16+ neu rieni/gofalwyr.

2.5 Bydd teithiau i leoliadau preswyl tymhorol neu wythnosol mewn ysgolion a gynhelir ac ysgolion annibynnol y tu allan i'r sir yn cael eu hariannu gan yr Awdurdod. Bydd y ddarpariaeth hon yn cael ei chyfyngu i gyfnodau penodol drwy'r flwyddyn ysgol e.e. yn wythnosol, bob hanner tymor neu bob tymor. Caiff cludiant i ofal seibiant/seibiannau byr eu hariannu gan y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Blant. Darperir cludiant i rieni/gofalwyr y rhai hynny sydd mewn ysgolion arbennig preswyl na fyddent, heb gymorth i fynd i Adolygiadau Blynyddol y Datganiadau AAA, yn gallu mynd yno fel arall.

2.6 Gallai'r mathau o gludiant gynnwys bysiau mini neu fysiau ysgol prif ffrwd, cludiant cyhoeddus, tacsis, ceir llogi preifat, cerbydau o fflyd yr Awdurdod ei hun, cerbydau gyrwyr gwirfoddol, neu'r ddarpariaeth o gerbydau arbenigol/addasedig, ac mewn rhai achosion, y ddarpariaeth o gynorthwywr teithwyr (a elwid yn hebryngwr gynt). Bydd cyfyngiadau diogelwch yn cael eu darparu yn unol ag anghenion y dysgwr. Mae'r Awdurdod yn cadw'r hawl i wrthod cludo defnyddiwr cadair olwyn sy'n teithio mewn cadair olwyn y profwyd ei bod yn anniogel wrth ei chludo mewn gweithdrefnau profi trawiadau safonol neu os yw'r gadair olwyn mewn cyflwr anaddas i gael ei chludo e.e. nid yw'r teiars wedi eu chwythu'n llawn.

2.7 Pan fo rhieni/gofalwyr yn gallu darparu cludiant ar gyfer eu plentyn/plant cymwys eu hunain a'u bod nhw'n fodlon gwneud hynny, bydd cyfradd lwfans tanwydd cytunedig yn cael ei thalu.

2.8 Pryd bynnag y bo'n bosibl, archwilir cyfleoedd i fanteisio i'r eithaf ar symudedd annibynnol a ffordd iach o fyw ar gyfer dysgwyr a bydd dull graddedig yn cael ei ddefnyddio bob amser a'i adolygu'n barhaus o ran lefel y cymorth sydd ei angen.

2.9 Mae'r Awdurdod yn defnyddio adnoddau ac yn nodi trefniadau arbennig ar sail anghenion sefydledig. Mae hyn yn cynnwys darparu cludiant am ddim pan fo'r angen yn golygu bod yr Awdurdod yn gyfrifol amdano. Ym Mhowys, bydd disgyblion ar Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy hefyd yn "sbarduno" ystyriaeth o gyfrifoldebau ychwanegol yr Awdurdod fel y'u diffinnir gan God Ymarfer AAA Cymru (2002) a pholisi trafnidiaeth Powys. I'r rhai hynny sydd â datganiad o ADY, mae gan yr Awdurdod gorff statudol sy'n gwneud penderfyniadau (sef y Panel Statudol ADY) ar gyfer yr holl faterion ADY statudol sy'n ymwneud ag Anghenion Addysgol Arbennig fel y'u pennir gan God Ymarfer AAA Cymru. Bydd penderfyniadau ar gyfer y rhai hynny yn Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy yn cael eu gwneud gan Uwch Reolwr yr Awdurdod ar gyfer ADY a Chynhwysiant ar ôl trafod â phartïon ac ystyried y dystiolaeth.

2.10 Yr Uwch Reolwr ar gyfer ADY a Chynhwysiant sy'n gyfrifol am gytuno ar gymorth i'r rhai hynny nad oes ganddynt ddatganiadau, ond mae'n gweithio yn ôl yr un fframwaith cyfreithiol sylfaenol gan mai asesiad o anghenion ydyw hyn.

2.11 Bydd yr Awdurdod yn darparu cludiant unigol rhwng y cartref a'r ysgol yn achos dysgwyr ag anabledd a/neu anghenion addysgol arbennig yn unol â'r meini prawf canlynol:

(a) Pan fo gan ddysgwr anabledd corfforol a fyddai'n ei atal rhag gwneud y math arferol o daith wedi ei hebrwng a wneir gan ddysgwyr o'r un oedran heb unrhyw ADY. Gallai enghreifftiau o hyn fod yn achosion pryd y bydd gan y dysgwr:

(i) Gyfyngiadau symudedd difrifol yn yr hirdymor - er enghraifft, amgylchiadau pan fo angen defnyddio cymorth corfforol sylweddol yn ddyddiol megis cadair olwyn.

(ii) Pan mai'r cyngor meddygol clir yw cael y daith fyrraf bosibl.

(ii) Cyflwr meddygol hirdymor sy'n arwain at gyfyngiadau symudedd difrifol oherwydd poen a/neu flinder dirfawr - er enghraifft arthritis yn yr ifanc.

(iii) Cyflwr meddygol hirdymor sy'n arwain at gyfyngiadau symudedd oherwydd peryglon iechyd a diogelwch difrifol - er enghraifft, epilepsi neu namau ar y galon sy'n peryglu bywyd.

(iv) Nam ar y synhwyrau sy'n arwain at gyfyngiadau symudedd difrifol - er enghraifft, pan fo dysgwr heb olwg i bob pwrpas.

(b) Pan fo gan ddysgwr anabledd neu anhawster sylweddol gyda materion cymdeithasol, a/neu emosiynol, o'u cymharu â dysgwyr eraill o'r un oedran, gallai fod yn agored iawn i niwed mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Er enghraifft, dysgwr â Syndrom Asperger sydd ag ychydig iawn o ymwybyddiaeth o berygl personol, neu ddysgwr ag anawsterau dysgu difrifol sy'n methu â rheoli cymhlethdod y broses gyda diogelwch neu sy'n dangos ymddygiad heriol yn gyson. Gallai rhai fod ag anghenion cymdeithasol ac emosiynol sy'n arwain at ymddygiad ymosodol neu ddinistriol, ac felly mae angen gwneud trefniadau unigol ar eu cyfer.

Gydag (a) a (b) uchod, bydd angen rhoi tystiolaeth ysgrifenedig i'r Awdurdod (manylir ar hyn yn y Ffurflen Gais gychwynnol am Gludiant) ynghylch sut mae'r dysgwr yn gweithredu bob dydd a/neu farn feddygol, er mwyn pennu arwyddocâd anabledd neu anhawster y dysgwr mewn cysylltiad â'r daith rhwng y cartref a'r ysgol.

2.12 Pan fo mynediad i ddarpariaeth arbenigol neu ysgol prif ffrwd a enwir mewn datganiad o ADY yn cael eu trafod, bydd dewis y rhieni yn cael ei ystyried. Ni ddarperir cludiant am ddim (hyd yn oed pan fo'r angen am gludiant penodol wedi ei sefydlu) i'r ysgol sydd orau gan y rhieni/gofalwyr os yw hon ymhellach oddi wrth gartref y dysgwr nag ysgol arall sy'n gallu diwallu anghenion addysgol arbennig y dysgwr. Mewn achos o'r fath, gallai'r Awdurdod gytuno i enwi'r ysgol a ffefrir gan y rhieni/gofalwyr yn y datganiad, ond dim ond ar yr amod bod y rhieni/gofalwyr yn fodlon talu'r holl gostau teithio tra bydd eu dysgwr yn mynychu'r ysgol a ffefrir ac, os, ar ddyddiad diweddarach y bydd y rhieni/gofalwyr yn canfod nad ydynt mwyach yn gallu darparu cludiant, bydd yr Awdurdod yn adolygu'r lleoliad ysgol.

2.13 Darperir cludiant am ddim i ddysgwyr oedran ysgol statudol sy'n byw y tu hwnt i'r pellter cerdded i'w hysgol ddalgylch neu'r ysgol addas agosaf fel y diffinnir gan yr Awdurdod (cyfeirier at Adran 2.3 a 2.4 o Ran 1 o'r Cymhwyster Safonol).

2.14 Darperir cludiant am ddim hefyd yn dilyn asesiad sy'n nodi na fydd y dysgwr yn gallu mynychu'r ysgol ddalgylch neu'r ysgol addas agosaf oni bai bod cludiant yn cael ei ddarparu, oherwydd bod ADY/Anabledd wedi eu nodi.

2.15 Bydd yr asesiad o anghenion cludiant ar gyfer dysgwyr unigol oedran ysgol statudol sydd angen cymorth ychwanegol yn cael ei wneud gan (o leiaf) banel statudol ADY (os yw datganiad AAA yn gymwys), y Rheolwr ADY gyda'r aelod(au) priodol o bersonél Gwasanaeth yr Ysgol ar gyfer disgybl yn Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy a'r Swyddog Cludo Teithwyr, a fydd yn chwilio am ganllawiau meddygol ac addysgol yn ôl yr angen.

2.16 Bydd asesiad pob dysgwr yn mynd rhagddo ar sail yr ymyrraeth leiaf posibl, gan symud ymlaen i lefelau o annibyniaeth uwch, a chan ddibynnu ar dystiolaeth o angen sydd wedi ei sefydlu. Gofynnir am ganllawiau yn ôl yr angen gan weithwyr proffesiynol meddygol ac addysgol gan gynnwys lleoliad presennol y dysgwr os yw hynny'n briodol.

2.17 Y meini prawf a ystyrir wrth asesu anghenion cludiant yw: pellter, ysgol addas, lefel yr angen.

2.18 Bydd manylion clir am amodau/materion penodol sy'n rheoli'r angen a nodwyd am gludiant yn cael eu cofnodi yn ystod yr asesiad cludiant cychwynnol. Er enghraifft, gallai dysgwyr fod ag/yn:

  • anawsterau symudedd sylweddol;
  • nam sylweddol ar y golwg neu'r clyw;
  • anawsterau dysgu lluosog dwys;
  • anawsterau dysgu difrifol/penodol;
  • anhwylderau ar y sbectrwm awtistig/anawsterau cyfathrebu;
  • anawsterau iaith a lleferydd difrifol;
  • problemau ymddygiadol ac emosiynol difrifol;
  • ddefnyddiwr cadair olwyn;
  • analluedd meddygol cronig.

Gwneir penderfyniadau ynghylch cludiant yn ystod adeg yr asesiad cychwynnol a chânt eu cofnodi ar Ffurflen Gais am Gludiant cychwynnol y dysgwr. Byddant hefyd yn ffurfio rhan o'r Cofnodion Cynllun Gofal Teithio Unigol ar gyfer dysgwyr cymwys sydd â Datganiadau AAA a'r rhai hynny yn Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy y cytunwyd ar gludiant unigol ar eu cyfer.

2.19 Anogir pob ysgol a sefydliad AB (mewn ymgynghoriad â rhieni/gofalwyr) i ystyried manteision y sgiliau bywyd a'r annibyniaeth i ddisgyblion/dysgwyr hŷn y gellid eu galluogi i gerdded i'r ysgol neu i ddefnyddio bysiau neu drenau gwasanaeth cyhoeddus gyda'r cymorth priodol.

2.20 Gofynnir am ganllawiau yn y lle cyntaf naill ai drwy'r broses asesu statudol y seilir datganiad arni, yr Adolygiad Blynyddol neu'r Cynllun Mynediad i'r Ysgol a chan arbenigwyr meddygol ac addysgol i asesu'r angen penodol am gludiant, a gellid cofnodi hyn yn Rhan 6 o ddatganiad ADY y dysgwr, neu ar y cofnodion Adolygiad Blynyddol ar gyfer y

disgyblion hynny yn Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy. Bydd hyn yn cynnwys:

  • diffiniad clir o ba feini prawf a ystyriwyd wrth benderfynu ar yr angen yn yr asesiad cychwynnol a'r adolygiadau dilynol;
  • yr ystod o ddulliau priodol o gludiant sydd ar gael/yn hygyrch;
  • ystyried mannau casglu a gollwng priodol;
  • unrhyw ofynion penodol, e.e. cynorthwywr teithwyr hanfodol/a argymhellir, neu'r angen i deithio ar wahân i ddysgwyr eraill neu amser teithio hwyaf neu drefniadau ar gyfer brodyr a chwiorydd neu amgylchiadau eithriadol rhieni/gofalwyr; ac
  • syniad o'r amserlen adolygu (os yw'n amlach nag unwaith y flwyddyn).

2.21 Mae gan bob dysgwr/person ifanc sydd angen trefniadau cludiant arbennig, ac sy'n teithio ar gludiant addysg, Gynllun Gofal Teithio Unigol sy'n cael ei lunio drwy ymgynghori â'r dysgwr/person ifanc, ei rieni/gofalwyr, yr ysgol ac arbenigwr meddygol (pan fo hynny'n briodol). Mae hyn yn cynnwys manylion am ystyriaethau meddygol; manylion priodol am harneisiau neu ataliadau a chadair olwyn, pan fo hynny'n berthnasol. Mae asesiad risg unigol yn dadansoddi anghenion diffiniedig y dysgwr ac yn rhoi strategaethau a dulliau ar waith i leihau'r tebygolrwydd o beryglon posibl a'u canlyniad.

2.22 Mae'r ysgol yn ailedrych ar anghenion cludiant person ifanc yn rheolaidd mewn cydweithrediad â gweithwyr proffesiynol eraill fel y bo'n briodol ac ar y cyd â Chynllun Gofal Teithio Unigol y dysgwr, drwy'r Broses Adolygu Flynyddol, fel a ganlyn:

(1) Adolygiad blynyddol datganiad ADY neu Adolygiad Blynyddol Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy;

a

(2) Phan fydd disgybl yn newid ysgol;

(3) Wrth drosglwyddo o CA2 i CA3 (Blwyddyn 6 i Flwyddyn 7);

(4) Adolygiad 14+ gan gynnwys cyfraniad gan Gynghorwyr Gyrfaoedd a Sgiliau;

(5) Adolygiad 16+ gan gynnwys cyfraniad gan Gynghorwyr Gyrfaoedd a Sgiliau;
 

2.23 Bydd yr elfennau i'w hystyried wrth ddechrau ac ym mhob adolygiad dilynol yn cynnwys:

  • Statws yr hawl gychwynnol ac unrhyw newidiadau dilynol
  • Gofynion cynorthwywyr teithwyr (hanfodol/a argymhellir)
  • Darparu cadair olwyn (a phrotocolau rheoli)
  • Seddau/harneisiau arbennig
  • Trefniadau llwytho/dadlwytho
  • Gofynion cynorthwywr arbenigol e.e. symud dysgwr i mewn ac allan o'r cerbyd a'r gadair olwyn gan gynnwys ystyried ei bwysau, maint a symudedd corfforol
  • Anghenion arbennig/meddyginiaeth
  • Y gofyniad am gludiant o ddrws i ddrws

Mae gwybodaeth arall megis materion penodol neu ymddygiadol y dylai gyrwyr a chynorthwywyr theithwyr fod yn ymwybodol ohonynt yn cynnwys

  • Rhifau cyswllt mewn argyfwng
  • Unrhyw sefyllfa ddomestig sydd wedi newid e.e. brawd neu chwaer yn teithio neu'n rhoi'r gorau i deithio
  • Galluoedd cynyddol y dysgwr a adlewyrchir mewn cyfleoedd ar gyfer mwy o annibyniaeth
  • Safbwyntiau'r rhiant/gofalwr/dysgwr

2.24 Bydd dysgwyr ôl-16 ag Anghenion Arbennig, Anabledd neu Broblemau Symudedd yn parhau i gael cymorth yn unol â'u hangen fel y bo'n briodol.

2.25 Mae'r Datganiad AAA yn parhau hyd at y flwyddyn academaidd pan fo dysgwr yn cyrraedd 19 oed, ar gyfer dysgwyr sy'n mynychu ysgol prif ffrwd neu ysgol arbennig ôl-16 a gynhelir. Ni fydd y Datganiad AAA mwyach yn gymwys i ddysgwyr dros 19 oed nac i'r rhai hynny sy'n mynychu Coleg Addysg Bellach. Caiff cymorth cludiant parhaol ôl-16 i ddysgwyr ADY nad ydynt yn gymwys o dan bolisi cludiant ôl-16 dewisol yr Awdurdod Lleol ei seilio ar feini prawf tebyg i'r rhai a ystyrir wrth asesu anghenion cludiant ar gyfer disgyblion oedran statudol sydd ag ADY a chaiff dysgwyr eu hasesu'n flynyddol yn yr un modd.

2.26 Pan fo'r Awdurdod yn cael cais am gludiant i'r sefydliad perthnasol, mae'n ystyried yr wybodaeth ganlynol:

  • Pa un a yw'r dysgwr yn un o drigolion Powys;
  • Oedran ac anghenion y dysgwr;
  • Natur y llwybr sydd ar gael i'r sefydliad perthnasol ac unrhyw lwybr arall rhesymol;
  • Hyd y daith;
  • Pa un a yw'r dysgwr yn gallu defnyddio cerbydau gwasanaeth cyhoeddus. Nid yw diffyg cerbydau gwasanaeth cyhoeddus mewn ardal yn rheswm ynddo ei hun dros ddarparu cludiant unigol;
  • Y budd y caiff y dysgwr o'r cwrs. Bydd yr Awdurdod yn ystyried unrhyw addysg ôl-16 flaenorol a bydd yn rhaid iddo benderfynu a fydd y cwrs yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd a rhagolygon y dysgwr yn y dyfodol. Gofynnir am adroddiadau oddi wrth swyddogion Gyrfaoedd ac asiantaethau perthnasol eraill er mwyn helpu'r Awdurdod i wneud y penderfyniad hwn;
  • Pa un a yw'r dysgwr yn gwneud cais am gludiant i'r sefydliad perthnasol. Mae hyn yn golygu'r ysgol neu goleg agosaf sy'n cynnig ei gwrs dewisedig neu gwrs tebyg iddo. Mewn achos disgybl oedran chweched dosbarth sydd â Datganiad AAA, mae hynny'n golygu'r ysgol, os oes un, a nodwyd yn Rhan 4 y Datganiad.
  • Y gost o ddarparu cludiant o'i chymharu ag unrhyw ddull arall o hwyluso presenoldeb e.e. a allai'r dysgwr aros mewn llety sy'n agos at y coleg neu gael ei gludo gan rieni/gofalwyr os oes ganddynt gerbyd symudedd ar gyfer y dysgwr ac ati;
  • Bydd dysgwyr yn cael y cyfle i ddewis rhwng sefydliadau cyn belled â bod gwneud hynny yn rhesymol. Fodd bynnag, bydd y gost o ddarparu cludiant arbenigol i goleg neu ysgol ac addasrwydd y cwrs yn ffactorau y mae'n rhaid i'r Awdurdod eu hystyried wrth wneud penderfyniadau ynghylch cymorth gyda chludiant. Pan fo'r Awdurdod yn cytuno i ddiwallu cost y cludiant yn llawn, dylai dysgwyr fynychu'r coleg neu'r ysgol berthnasol agosaf sy'n cynnig yr un cwrs neu gwrs tebyg.
  • Mewn rhai achosion, gallai'r Awdurdod benderfynu y byddai person ifanc yn elwa ar fath gwahanol o leoliad er mwyn cynorthwyo ei ddatblygiad, megis mynychu Canolfan Ddydd neu gyflogaeth o fewn y Gwasanaeth i Oedolion a Gofal Cymdeithasol yn hytrach nag addysg bellach mewn coleg neu ysgol.

2.27 Bydd manylion clir am unrhyw amod/mater penodol sy'n rheoli'r angen a nodwyd am gludiant yn cael eu cofnodi yn ystod yr asesiad cludiant cychwynnol. Er enghraifft:

  • nam sylweddol ar y golwg neu'r clyw;
  • anawsterau dysgu lluosog dwys;
  • anawsterau dysgu difrifol/penodol;
  • anhwylderau ar y sbectrwm awtistig/anawsterau cyfathrebu;
  • anawsterau iaith a lleferydd difrifol;
  • problemau ymddygiadol ac emosiynol difrifol;
  • bod yn ddefnyddiwr cadair olwyn;
  • analluedd meddygol cronig;
  • analluedd a gadarnhawyd i letya'n annibynnol yn agos at y sefydliad 16+;
  • analluedd a gadarnhawyd i ddefnyddio cludiant cyhoeddus.

2.28 Nod y polisi cludiant ADY ôl-16 yw annog annibyniaeth bersonol a datblygu sgiliau cymdeithasol a medrau bywyd drwy hyrwyddo symudedd personol pryd bynnag y bo hynny'n bosibl.

2.29 Ceisir cael cyngor gan y person ifanc, staff yr ysgol a'r coleg yn ogystal â rhieni/gofalwyr i benderfynu maes o law a allai fod yn bosibl i ddysgwr symud ymlaen i gludiant annibynnol ar fws gwasanaeth cyhoeddus. Mewn achosion o'r fath, darperir teithiau â chymorth am gyfnod dros dro er mwyn caniatáu i'r dysgwr ymgymryd â hyfforddiant gyda Chyfaill Bws mewn cydweithrediad â staff yr ysgol neu'r coleg, cyn i'r dysgwr ddod yn hyderus ac yn gwbl annibynnol o ran ei ddefnydd o'r gwasanaeth bysiau. Yn ystod y cam hwn, bydd cymorth ariannol i ddysgwyr sydd wedi llwyddo'n raddol i allu teithio'n annibynnol yn cael ei dynnu'n ôl neu ei leihau i'r lefel sydd ar gael i ddysgwyr AB prif ffrwd h.y. yn dilyn hyfforddiant, bydd y rhai sy'n gallu gwneud eu ffordd eu hunain yn annibynnol gan ddefnyddio cludiant cyhoeddus, sydd wedi teithio ar dacsi neu fws mini o dan gontract yn flaenorol, yn cael tocyn bws i'r sefydliad addas agosaf os ydynt yn bodloni'r cymhwyster safonol ar gyfer cludiant i'r ysgol.

2.30 Yn yr un modd, nid ystyrir ceisiadau gan ddysgwyr i drosglwyddo o lwybrau bysiau presennol y gwasanaeth cyhoeddus i deithio mewn car, oni cheir tystiolaeth o amgylchiadau eithriadol. Byddai amgylchiadau eithriadol yn cynnwys dirywiad sylweddol yng nghyflwr meddygol y dysgwr, er enghraifft, colli symudedd sy'n ei arwain i ddibynnu ar gadair olwyn.

Rhybudd Pwysig

O fis Medi 2020 ymlaen, bydd cod ymarfer statudol newydd sy'n ymwneud ag ADY.

Bydd angen gwneud diwygiadau i'r polisi hwn gan gyfeirio at y cod newydd.

Yn ogystal â hynny, ni fydd termau penodol a ddefnyddir i ddisgrifio ADY ar hyn o bryd yn briodol mwyach, e.e. Datganiad, Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy; bydd y polisi yn cael ei ddiwygio er mwyn adlewyrchu'r newid yn y derminoleg.

 

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu