Mesurau diogelwch pellach ar y gweill ar gyfer Sioe Fawr 2019

15 Gorffennaf 2019
Bydd mesurau diogelwch a gyflwynwyd ar gyfer Sioe Fawr 2018 gan Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym-Muallt dan arweiniad Cyngor Sir Powys yn dychwelyd eleni eto ynghyd â chyfleuster meddygol a lles newydd yn Neuadd y Strand.
Mae mesurau 2019 yn adeiladu ar y rhai a gyflwynwyd am y tro cyntaf yn 2018 yn dilyn marwolaeth drasig ffermwr ifanc o Bowys yn y sioe yn 2017.
Ymhlith y mesurau a welir eleni eto fydd y 'llwybr gwyrdd' o dref Llanfair-ym-Muallt i faes y Sioe, Fferm Penmaenau a'r wersyllfa a'r Pentref Ieuenctid. Bydd yna arwyddion a mynegbyst clir ar y llwybr o'r dref i'r wahanol fannau. Ni fyddwn yn cau llwybrau cyhoeddus yn yr ardal yn ystod y sioe a bydd stiwardiaid ar ddyletswydd gyda'r hwyr i ddangos y ffordd i ymwelwyr o'r dref i'r lleoliadau.
Bydd map lleol yn rhoi manylion y llwybr a bydd yn ymddangos hefyd ar ap y Sioe Fawr, ynghyd â gwybodaeth eraill i ymwelwyr am y sioe. Gallwch ei lwytho am ddim o'r siop Aps a Google Play.
Unwaith eto, bydd ffens dros dro sy'n cael ei hariannu gan Gymdeithas y Sioe, yn cael ei chodi rhwng y Gro a'r afon i wella diogelwch. Bydd y ffens yn cael ei chodi cyn y sioe a'i thynnu ar ddiwedd yr wythnos.
Yn ôl arolwg cyhoeddus a gynhaliwyd yn dilyn gwelliannau 2018, roedd 86% o'r rhai a atebodd o'r farn bod y mesurau diogelwch wedi gwella diogelwch y cyhoedd.
Yn dilyn sylwadau gan y cyhoedd, bydd Neuadd y Strand yn cael ei defnyddio eleni fel Canolfan Gymorth yn nhref Llanfair-ym-Muallt. Bydd yn gwella'r ddarpariaeth feddygol a lles yn y dref ac yn cynnig cyfleusterau meddygol a lles o un lleoliad.
Bydd yn cynnwys Uned Gwella o Alcohol (dan adain St. John Cymru), Heddlu Dyfed-Powys, Gweithwyr Ieuenctid Cyngor Sir Powys a hefyd Bugeiliaid Stryd gwirfoddol sy'n dychwelyd eto eleni i weithio ar strydoedd Llanfair-ym-Muallt.
Mae Canolfan Gymorth Llanfair-ym-Muallt yn deillio o bartneriaeth agos ac arloesol rhwng Cyngor Sir Powys, Heddlu Dyfed-Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Cyngor Tref Llanfair-ym-Muallt a Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.