Beth yw Gofal Ychwanegol a pham fod ei angen ym Mhowys

15 Gorffennaf 2019
Mae cynlluniau ar gyfer llety 'Gofal Ychwanegol' newydd yn y Trallwng wedi creu cwestiynau amdano a pham fod ei angen ym Mhowys.
Mae poblogaeth y sir eisoes yn heneiddio ac mae nifer y bobl sy'n tyfu'n hŷn yn codi'n gyflymach yma nag unrhyw le arall yng Nghymru.
Dros yr 20 mlynedd nesaf, bydd nifer y bobl sy'n 75 oed a hŷn yn tyfu fel cyfran y boblogaeth gyfan o 11% i 23%. Mae hyn yn newyddion da i drigolion ond yn creu heriau i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
'Gofal Ychwanegol' yw un o'r dewisiadau mae gofal cymdeithasol yn ei gefnogi yn hytrach na'r dulliau traddodiadol o gynnig gofal preswyl neu lety gwarchod. Nid peth newydd yw hwn, ond dim ond un lle o'r fath sydd ym Mhowys, sef Llys Glan-yr-Afon yn Y Drenewydd.
Dwedodd Ali Bulman, Cyfarwyddwr Corfforaethol Plant ac Oedolion; "Mae Gofal Ychwanegol yn cynnig llety preswyl modern a phwrpasol gyda gofal a chymorth 24 awr ar y safle i ateb anghenion a disgwyliadau newidiol trigolion. Mae hwn yn rhoi cyfle i bobl fyw mor annibynnol â phosib yn eu cartrefi eu hunain."
"Gall tai Gofal Ychwanegol gynnig dewis gwahanol yn hytrach na gofal preswyl, gofal nyrsio as thai gwarchod. Y bwriad yw cynnig 'cartref am oes' i nifer o bobl, hyd yn oed os yw eu hanghenion gofal yn newid dros amser.
"Mae Gofal Ychwanegol yn wahanol i'r dulliau mwy traddodiadol o ofal preswyl a llety gwarchod. Bydd pobl yn gallu byw yn eu cartrefi eu hunain ar y safle Gofal Ychwanegol, a byw'n annibynnol.
"Ansawdd bywyd sy'n bwysig, nid dim ond ansawdd y gofal. Gyda gwasanaethau gofal 24 awr ar y safle, gall cyplau a ffrindiau fod gyda'i gilydd a bydd cymysgedd o bobl gyda gwahanol anghenion.
"Mae'n bwysig fod pobl yn gallu byw mor annibynnol â phosibl ac mae gofal ychwanegol yn ffordd effeithiol o wneud hyn.
"Fel arfer, mae'r fflatiau'n cynnwys un neu ddwy ystafell wely. Mae gan bob fflat ystafelloedd gwely hwylus, lolfa, cegin ar wahân a chawod â mynediad gwastad. Mae'n debyg y bydd yna lefydd cymunedol, larymau cymunedol a gofal trwy dechnoleg. "
Ychwanegodd: "Mae'r rhain wedi'u hadeiladu'n bwrpasol fel bod trigolion yn gallu aros yn eu cymunedau gyda digon o gefnogaeth a chyfleusterau."