Blychau amnest cyffuriau

19 Gorffennaf 2019
Am y tro cyntaf, mae trefnwyr diogelwch digwyddiadau wedi cadarnhau y bydd bocsys amnest cyffuriau ar gael yn ystod wythnos y Sioe Frenhinol.
Mae'r blychau amnest, a fydd yn cael eu rhoi ar y ffordd i mewn i leoliadau yn Llanfair-ym-Muallt a'r cyffiniau, wedi'u cynllunio i atal cyffuriau rhag cael eu cludo i'r gwahanol leoliadau yn ystod y digwyddiad.
Dywedodd llefarydd ar ran Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym-Muallt: "Mae'n gam cyfrifol i gael bocsys amnest cyffuriau ar gael yn ystod y sioe ac mae'n arfer safonol ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus mawr. Ni chaniateir cyffuriau anghyfreithlon neu gyfreithiol yn unrhyw un o'r lleoliadau yn Llanfair-ym-Muallt a'r cyffiniau felly bydd bocsys amnest ar gatiau'r safle ac yn y dref ar gyfer gwaredu cyffuriau'n ddiogel ac mewn ffordd synhwyrol."