Technoleg wrth wraidd y cynllun gofal ychwanegol
22 Gorffennaf 2019
Gyda Chyngor Sir Powys erbyn hyn wedi cytuno i ddatblygu gofal ychwanegol yn Y Trallwng, bydd meddyliau'n troi at waith cynllunio a pharatoi at y dyfodol. Un o agweddau pwysicaf y cynllun fydd Gofal gyda chymorth Technoleg.
Trwy weithio gyda chynllunwyr Cymdeithas Tai ClwydAlyn, bydd Powys yn ceisio sicrhau bod y cynllun Gofal Ychwanegol newydd yn manteisio ar dechnolegau digidol a fydd yn golygu bod trigolion yn gallu byw mor annibynnol â phosibl heb orfod gosod technolegau newydd ychwanegol, gan y bydd yn rhan annatod o'r adeilad.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforol - Plant ac Oedolion, Ali Bulman: "Rydym yn bwriadu gwneud y defnydd gorau o'r dechnoleg ddiweddaraf i helpu trigolion fyw'n annibynnol gyda'n cynlluniau ar gyfer gofal ychwanegol yn Y Trallwng. Rydym wedi gweld sut mae technoleg trwy Wi-Fi wedi helpu prosiectau eraill, ac rydym yn bwriadu gwneud yr un fath yn Y Trallwng.
"Bydd yr adeiladau'n elwa o signal Wi-Fi cryf a dibynadwy trwyddi draw, ac os yn bosibl, trwy'r tir hefyd gan greu cynlluniau diogel a chyfleus o fynediad trwy fideo i drigolion.
"Gyda thechnoleg gallwn gynnig gwasanaeth teleofal gan gynnwys synwyryddion syrthio sy'n gysylltiedig â chanolfan gymorth sy'n golygu y bydd help wrth law unrhyw adeg o'r dydd a'r nos. Mae gwasanaethau technolegol yn datblygu'n gyflym, felly bydd grŵp arbennig yn ystyried datblygiadau newydd ac yn sicrhau bod y cynllun yn gallu manteisio ar y technolegau gofal ac iechyd diweddaraf."
"Byddwn yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i weld sut y bydd yn bosibl delio ag ymholiadau meddygol syml trwy fideo-gynadledda. Mae cyfrifiaduron llechi a dolenni fideo eisoes yn golygu bod modd i drigolion gysylltu â pherthnasau o bell, ac mae'r rhain yn bwysig i ofal cymdeithasol.
"Mae nifer o bobl hŷn eisoes yn gyfarwydd â thechnolegau digidol ac fe allem gael 'ystafell gyfrifiaduron' yn yr adeilad er defnydd bob dydd neu ddosbarthiadau cyfrifiadurol i'r rhai sydd am wella'u sgiliau. Mae'r posibiliadau'n ddiddiwedd."
"Mae posibiliadau di-ri i'r cynllun hwn yn y dyfodol", ychwanegodd.