Cyhoeddi cystadleuwyr rownd terfynol prif wobrau busnes Powys

30 Gorffennaf 2019
Mae busnesau o bob cwr o Bowys wedi'u cynrychioli ym mhrif wobrau busnes y sir.
Bu'r cystadlu'n frwd ac mae 28 o fusnesau wedi'u cynnwys ar y rhestr fer ar gyfer 12 o wahanol gategorïau yng Ngwobrau Busnes Powys eleni.
Bydd y cwmnïau buddugol yn cael eu dewis yn dilyn ymweliadau'r beirniaid dros fisoedd yr haf, a chyhoeddir enwau'r enillwyr mewn cinio arbennig i'w gynnal nos Wener 4 Hydref yn Dering Lines, Aberhonddu.
Mae cystadleuwyr y rownd derfynol fel a ganlyn:
Gwobr Entrepreneuriaeth a noddir gan Lywodraeth Cymru
- BORD3R Limited, Llandysilio
- Gloversure Ltd, Y Trallwng
- Navmoor Limited, Llangors
Gwobr Sefydlu Busnes a noddir gan Myrick Training
- Countryside Financial Services Ltd, Llanidloes
- Natural Weigh Ltd, Crughywel
- Navmoor Limited, Llangors
Gwobr Busnes Micro (Dan 10 o Weithwyr) a noddir gan y Cambrian News a'r Brecon & Radnor Express
- Electric Classic Cars Limited, Y Drenewydd
- Liberty Furnishings, Y Drenewydd
- Tailored Imports Limited, Talgarth
Gwobr Twf a noddir gan Fanc Datblygu Cymru
- A.C. Roof Trusses Ltd, Y Trallwng
- CellPath Ltd, Y Drenewydd
- Radnor Hills, Tref-y-clawdd
Gwobr Buddsoddi mewn Pobl a noddir gan PCI Pharma Services
- Ysgol Uwchradd Caereinion, Llanfair Caereinion
- EvaBuild Ltd, Y Drenewydd
- Mitchell Meredith Ltd, Llandrindod
Gwobr Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cwsmer a noddir gan Nidec Control Techniques
- Mitchell Meredith Ltd, Llandrindod
- The Nags Head Inn, Garthmyl
- Varleys Of Newtown Ltd
Gwobr Busnesau Bach (Dan 30 o Weithwyr) a noddir gan y County Times
- A.C. Roof Trusses Ltd, Y Trallwng
- The Milford Collection, Y Drenewydd
- TS Henderson & Co Ltd, Y Gelli Gandryll
Gwobr Menter Gymdeithasol/Elusennol a noddir gan Gymdeithas Tai Canolbarth Cymru Cyf
- Corn Exchange Crickhowell Ltd, Crughywel
- Severn Rivers Trust, Y Trallwng
- Tir Coed, Rhaeadr Gwy
Gwobr Masnach Ryngwladol a noddir gan Gyfreithwyr Lanyon Bowdler
- CellPath Ltd
- Winslow Adaptics Ltd
Gwobr Prentis Eithriadol a noddir gan Grwp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru
- Joe Paul - Gloversure, Y Trallwng
- Joleyon Harris - Morgan's Plumbing and Heating Ltd, Llanymynech
- Daniel Gregory - Nidec, Y Drenewydd
Gwobr Technoleg ac Arloesedd a noddir gan Trax JH Ltd
- Electric Classic Cars Limited, Y Drenewydd
- EMDR Solutions Online Ltd, Bochrwyd
- Winslow Adaptics Ltd, Aberhonddu
Gwobr Twf Busnes Bach a noddir gan Grŵp Colegau NPTC
- Hughes Architects
- OTM Groundscare Ltd
- Welshpool and Llanfair Light Railway
Yn ogystal â'r gwobrau uchod, mae gan Banel y Beirniaid wobr y gallant ei dyfarnu yn ôl eu disgresiwn, sef Gwobr y Beirniaid. Dyfernir hon yn flynyddol i gydnabod cyflawniad neu unigolyn eithriadol sydd wedi dod i sylw'r beirniaid yn ystod eu hymweliadau, pan na all meini prawf caeth y gwobrau eraill gydnabod hynny. Noddir y wobr hon eleni gan Siambr Fasnach Canolbarth Cymru.
Bydd gwobr Busnes y Flwyddyn, a noddir gan Gyngor Sir Powys, yn cael ei dyfarnu o blith enillwyr y gwahanol gategorïau.
Mae'r gwobrau'n dathlu rhagoriaeth mewn busnes yn y sir ac yn dod â chydnabyddiaeth yn eu sgil i'r cwmnïau yn y cymunedau busnes lleol a rhanbarthol. Bydd yr enillwyr yn cael eu dateglu yn y noson Wobrwyo a fydd yn cael ei chynnal yn Dering Lines, Aberhonddu ar y 4ydd o Hydref.