Oedi i system draffig newydd yn Y Trallwng

31 Gorffennaf 2019
Cadarnhawyd y bydd rhaid gohirio system draffig newydd Y Trallwng am hyd at chwe wythnos oherwydd gwaith annisgwyl gan BT.
Mae darganfod ceblau ffeibr optig BT nad oedd wedi'u cofnodi, ar waelod Brook Street wedi arwain at waith ychwanegol a fydd yn golygu gohirio trosi i'r system newydd am ryw bump neu chwe wythnos.
Mae'r newidiadau i'r system draffig yn rhan o brosiect gan Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, sy'n gyfrifol am unrhyw benderfyniadau a newidiadau i'r prosiect.
Cwmni Alun Griffiths Ltd sy'n gwneud y gwaith ar y prosiect, ac mae'r Asiantaeth wedi penodi Cyngor Sir Powys i reoli'r contract ar eu rhan.
Dywedodd Adrian Jervis, Pennaeth Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Ailgylchu: "Mae'r contractwr wedi dod o hyd i lein BT sydd ychydig bellter i ffwrdd o'r lleoliad a welir ar y cynlluniau yn Brook Street ac nid yw'n ddwfn iawn, felly mae angen gweithio ar hyn ar unwaith.
"Fe all gymryd tua phum wythnos i orffen y gwaith i ostwng y lein. Dylwn orffen y gwaith yn rhannau eraill y dref yr wythnos hon, sy'n golygu y bydd canol y dref yn rhydd o waith ffordd.
"Serch hynny, mae gallu trosglwyddo i'r system draffig newydd yn dibynnu ar orffen y gwaith yn Brook Street, sy'n golygu oedi o ryw chwe wythnos."