Arfer gorau wrth drin ymholiadau diogelu (2 ddiwrnod)
Oherwydd pwysau ariannol, mae'n ddrwg gennym eich hysbysu na allwn ddarparu te a choffi yn y digwyddiadau hyfforddi yn ystod 2019-20, rydym yn eich cynghori i fynd â diodydd a phecyn bwyd gyda chi i ddigwyddiadau. |
Darparwr y cwrs
Bond Solon
Pan fydd problem diogelu yn codi, mae'n hanfodol bod unrhyw ymholiad sy'n ei dilyn yn cyrraedd y safonau arfer gorau.
Mae'n hanfodol bod y rheiny sydd i gynnal Ymholiad Diogelu yn gwneud hynny'n gyfreithlon, yn hyderus ac yn gymwys. Bydd hyn yn sicrhau bod tystiolaeth fanwl-gywir yn cael ei chasglu, gan ddarparu gwell wybodaeth ar gyfer cwmpas y tasgau "cyswllt cyntaf", ac yn dylanwadu'r uniongyrchol ar ddyletswyddau penderfynu. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod ymatebion yn briodol ac yn gymesur, a bod y deilliannau i'r oedolyn yn benodol i'r unigolyn ac yn well.
Amcanion y Cwrs
Mae'r cwrs deuddydd tra ymarferol a rhyngweithiol yma wedi'i fwriadu ar gyfer y rheiny sy'n debygol o fod angen cynnal Ymholiad Diogelu Oedolion, gan gynnwys ysgrifennu'r adroddiadau dilynol a allai arwain at orfod rhoi tystiolaeth lafar am eu darganfyddiadau.
Mae'r cwrs yn dilyn achos o ddiogelu 'byw' dychmygol, sy'n cael ei ddefnyddio fel astudiaeth achos a gaiff eich chyflwyno'n raddol yn ystod dau ddiwrnod y cwrs. Bydd y mynychwyr yn dysgu pa sgiliau sydd eu hangen i hwyluso cyfathrebu a chyfweld yr oedolyn mewn perygl, yn ogystal ag unrhyw bobl berthnasol eraill sy'n rhan o'r broses.
Bydd gwahanol fathau o ymholiadau yn cael eu hystyried yn dilyn atgyfeiriad, a bydd mynychwyr yn archwilio'u rôl , a rolau pobl eraill o fewn y prosesau hynny.
Bydd y cwrs yn sicrhau bod gan fynychwyr wybodaeth a dealltwriaeth drylwyr o'r broses diogelu oedolion, y fframwaith cyfreithiol, a rolau a chyfrifoldebau'r gwahanol bobl a sefydliadau sy'n rhan ohono.
Erbyn diwedd y cwrs, bydd gan fynychwyr ddealltwriaeth o'r hyn y mae gofyn iddynt ei wneud wrth gynllunio neu gynnal Ymholiad Diogelu, a bydd ganddynt y wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i allu casglu, diogelu a chyflwyno'u tystiolaeth yn effeithiol.
Prif Bwyntiau Dysgu
- Cyfathrebu egwyddorion craidd Diogelu dan Ddeddf Gofal 2014
- Gallu dilyn y broses diogelu yn ymarferol ac yn hyderus
- Adnabod pwysigrwydd ymatebion diogelu yn cael eu cyflenwi yn unol â Gwneud Diogelu'n fater Personol
- Cynllunio Ymholiadau Diogelu i gydymffurfio gan ddefnyddio arfer da
- Cynnal Ymholiadau Diogelu gan ddefnyddio arfer da
- Defnyddio sgiliau cyfweld i gasglu tystiolaeth ddibynadwy
- Gwahaniaethu rhwng y gwahanol fathau o dystiolaeth sydd ar gael, a ffynhonnell a phwysau'r dystiolaeth honno.
- Gallu defnyddio cofnodion fel prif ffynhonnell gwybodaeth fydd yn sail i'r adroddiad
- Datblygu ffordd wrthrychol a beirniadol o ystyried eu gwybodaeth ysgrifenedig eu hunain
- Llunio adroddiad diogelu da, gan gynnwys cynllun, fformat ac arddull
Dyddiad | Lleoliadau | Amseroedd |
---|---|---|
28 a 29 Tachwedd 2019 | NPTC, Y Drenewydd | 9.15am - 4.30pm |
4 a 5 Chwefror 2020 | Gwesty'r Castell, Aberhonddu | 9.15am - 4.30pm |
26 a 27 Mawrth 2020 | Gwesty'r Metropole, Llandrindod | 9.15am - 4.30pm |
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd. |
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau