Arolwg Tenantiaid

13 Awst 2019
Mae arolwg wedi dangos bod tenantiaid tai cyngor Powys yn fodlon â lefel cyffredinol gwasanaethau ond mae'r cyngor sir wedi addo gwneud hyd yn oed yn well yn y dyfodol.
Bydd canlyniadau arolwg boddhad tenantiaid annibynnol, sy'n cael ei gynnal bob dwy flynedd, yn cael eu cyflwyno i Bwyllgor Craffu yr Economi, Trigolion, Cymunedau a Llywodraethu'r cyngor ac yna'n cael ei ystyried gan y Cabinet yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Cynhaliwyd yr arolwg gan Beaufort Research, Caerdydd ym mis Ebrill ac roedd yn cynnwys dros 700 o gyfweliadau gyda thenantiaid. Fe'i dilynwyd gan arolwg ffôn mewnol o 128 o denantiaid fel rhan o ymarfer galw yn ôl.
Dangosodd yr arolwg:
- 65% o foddhad cyffredinol
- 77% yn fodlon gydag ansawdd eu cartrefi
- 84% yn fodlon gyda'u cymdogaeth fel lle i fyw ynddi
- 71% yn teimlo bod eu rhent yn rhoi gwerth am arian
- 65% yn teimlo bod y taliadau gwasanaeth yn rhoi gwerth am arian
- 54% yn fodlon gydag atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw
Dywedodd yr Aelod Cabinet ar faterion Tai a Gwasanaethau Cymunedol, y Cynghorydd James Evans; "Er bod lefel gyffredinol y boddhad yn dda, yn enwedig o ran ansawdd cartrefi, y gymdogaeth a gwerth am arian, rydym yn teimlo y gallwn wneud hyd yn oed yn well.
"Amlygodd y gwaith galw yn ôl meysydd lle gallwn wella ac rydym eisoes wedi dechrau rhoi prosesau newydd yn eu lle a fydd yn atgyfnerthu'r meysydd a oedd wedi cael eu hamlygu fel meysydd oedd angen eu gwella. Byddwn hefyd yn datblygu cynllun gweithredu llawn i wella boddhad tenantiaid yn y dyfodol.
"Hoffwn ddiolch i denantiaid am gymryd yr amser i fod yn rhan o'r arolwg; dim ond trwy wrando ar eu barn y gallwn ni wella ein gwasanaethau," ychwanegodd.
Bydd canlyniadau'r arolwg yn cael eu hystyried gan Bwyllgor Craffu yr Economi, Trigolion, Cymunedau a Llywodraethu ar yr 20fed o Awst.