Gofal Ychwanegol yn Y Trallwng - addasu adeilad mewn modd sensitif

15 Awst 2019
Bydd gwaith i drawsnewid adeilad y cyngor yn Y Trallwng yn lety gofal ychwanegol i bobl Powys yn cael ei wneud mewn ffordd sensitif. Dyna'r neges gan Gyngor Sir Powys a'u partneriaid yn y prosiect, ClwydAlyn.
Bydd Neuadd Maldwyn ar Ffordd Hafren yn cael ei throsglwyddo i'r Landlord Cymdeithasol Cofrestredig er mwyn gwneud y gwaith sydd ei angen i gynnig gofal ychwanegol yn y dref. Y Trallwng fydd yr ail dref ym Mhowys i gynnig llety gofal ychwanegol yn dilyn sefydlu Llys Glan yr Afon yn Y Drenewydd ddwy flynedd yn ôl.
Mae gofal ychwanegol yn cynnig llety modern gyda gofal a chymorth 24 awr ar y safle i ateb anghenion a disgwyliadau cyfnewidiol trigolion, a'u galluogi i fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cartrefi eu hunain.
Y Cynghorydd Stephen Hayes yw Aelod Cabinet y cyngor â chyfrifoldeb am Ofal Cymdeithasol i Oedolion. Esboniodd: "Wrth ystyried pwy fyddai ein partneriaid ni ar y prosiect hwn, roeddwn yn chwilio am sefydliad oedd â phrofiad o weithio ag adeilad rhestredig a fyddai'n gallu pwyso a mesur yr angen i ddarparu'r llety gorau i'n pobl hŷn a'r angen i gadw prydferthwch pensaernïol yr adeilad. O edrych ar eu gwaith yn Wrecsam, Llanrwst a Fflint, rwy'n hyderus i ni wneud y dewis iawn ac y bydd ClwydAlyn yn gallu gwneud hyn."
Sefydlwyd ClwydAlyn Housing Limited yn 1978 fel Landlord Cymdeithasol Cofrestredig anelusennol. Fe wnaeth grŵp o bobl leol gydnabod fod angen tai rhent fforddiadwy, o ansawdd da yn sir Clwyd ac ardal Aberconwy gan gofrestru Clwyd Alyn Housing Limited yn landlord cymdeithasol. Mae ClwydAlyn wedi datblygu'n sylweddol dros y degawdau ac erbyn hyn mae'n rheoli dros 6,000 o unedau llety ac yn cynnig gwasanaethau cymorth cysylltiedig ar draws Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Conwy, Wrecsam, Powys ac Ynys Môn.
Dywedodd Craig Sparrow, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu, ClwydAlyn: "Mae'n bleser cael cydweithio â Chyngor Sir Powys ar y datblygiad cyffrous hwn mewn lleoliad mor bwysig. Mae gan ClwydAlyn brofiad helaeth o ddarparu tai arbenigol o ansawdd uchel sy'n cynnwys adeiladau rhestredig neu o fewn ardaloedd cadwraeth gwarchodedig.
"Rydym newydd orffen cynllun cartrefi gofal ychwanegol tebyg yn Wrecsam lle'r oedd y filas gwreiddiol mewn ardal gadwraeth warchodedig wedi mynd yn adfeilion. Cawsant eu hadfer yn sensitif i gadw cymeriad gwreiddiol yr adeiladau, gan felly cynnig llety unigryw sy'n gweddu ag adeiladau newydd i'r cefn.
Esboniodd Mr Sparrow: "Mae'n bwysig i ni bod ein penseiri'n ystyried cymeriad y datblygiad cyfan fel bod y nodweddion cyfoes yn priodi'n dda â threftadaeth yr adeilad gwreiddiol.
"Mae ClwydAlyn hefyd wedi trawsnewid yr ail adeilad hynaf yn Fflint, sef yr hen Lys. Dim ond castell y dref sy'n hŷn na'r adeilad hwn. Erbyn hyn mae'n gaffi prysur ac yn ganolfan dreftadaeth gymunedol. Hefyd, rydym newydd orffen adnewyddu ysgoldy rhestredig gradd 2 sy'n dyddio o'r ail ganrif ar bymtheg yn Llanrwst yn ganolfan les gymunedol a phedwar fflat gofal ychwanegol. Mae'n fraint cael datblygu'r adeiladau hyn gan sicrhau y byddant yno am genedlaethau."
Gofal ychwanegol yw'r dull y mae'r cyngor yn ei ffafrio o ran sicrhau llety i bobl hŷn. Yn ôl amcanestyniadau'r boblogaeth dros yr ugain mlynedd nesaf, bydd canran y bobl dros 75 oed yn codi o 11% i 23% o'r boblogaeth. Mae hyn yn newyddion da i'r unigolion hynny ond yn her i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Fel arfer bydd llety gofal ychwanegol yn fflatiau un neu ddwy ystafell wely gydag ystafelloedd gwely hwylus, lolfa, cegin ar wahân a chawod â mynediad gwastad. Bydd adeiladau gofal ychwanegol hefyd yn cynnwys mannau cyffredin, larymau cymunedol a gofal trwy dechnoleg.
Ychwanegodd Mr Sparrow: "Byddwn yn ymgynghori'n llawn ar y cynllun ac edrychwn ymlaen at gwrdd â phawb sy'n rhan o'r cynllun cyffrous hwn Y bwriad yw creu tua 60 o fflatiau annibynnol ar y safle a fydd yn cael ei gynllunio'n sympathetig o gofio'i nodweddion rhestredig, yn amodol ar ganiatâd cynllunio."