Ceisio barn ar ganllawiau cynllunio pellach

28 Awst 2019
Mae barn trigolion Powys am yn cael ei geisio ar ddwy set ychwanegol o ganllawiau a fydd yn cael eu defnyddio i ategu'r Cynllun Datblygu Lleol y mae'r sir wedi i'i fabwysiadu.
Mabwysiadodd y cyngor sir gynllun newydd yn 2018 ac mae hwn yn lasbrint sy'n manylu ar bolisïau cynllunio'r sir y tu allan i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Gwnaethpwyd ymrwymiad ochr yn ochr â'r cynllun hwnnw y byddai'r cyngor yn cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol (SPG) ar amrywiaeth o bynciau ac y byddai'n ymgynghori ar y rhain cyn ei fabwysiadu.
Mae pump set o ganllawiau bellach wedi'u mabwysiadu ar bynciau fel tai fforddiadwy ac ynni adnewyddadwy. Erbyn hyn, maent yn ceisio barn ar ganllawiau sy'n edrych ar Ardaloedd Cadwraeth a Dyluniad Preswyl.
Dywedodd Martin Weale, Aelod Portffolio'r Cabinet ar Economi a Chynllunio: "Mae Canllawiau Cynllunio Atodol yn darparu cyngor defnyddiol i swyddogion cynllunio, datblygwyr a pherchnogion safleoedd fel ei gilydd. Mae'r Cyngor yn eu cynhyrchu yn unol â'r rhaglen a gytunwyd gyda'r Arolygydd Cynllunio annibynnol a gynhaliodd yr archwiliad cyhoeddus yn ystod 2017. Rydym yn croesawu barn pob parti â diddordeb."
Bydd yr ymgynghoriad yn para hyd 5.00pm ddydd Gwener 20 Medi. Bydd copïau o'r canllawiau drafft, ffurflen adborth a rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y cyngor. Ewch i: https://cy.powys.gov.uk/article/5526/Canllawiau-Cynllunio-Atodol-y-CDLl a chlicio ar Ymgynghoriadau Presennol i weld y teitl.
Mae'r dogfennau hefyd ar gael yn yr holl lyfrgelloedd ac ym mhedair prif swyddfa'r cyngor yn Llandrindod (Neuadd y Sir a'r Gwalia), y Trallwng, ac Aberhonddu.