Asesu anghenion cymorth i ofalwyr - Asesiadau Gofalwyr
Oherwydd pwysau ariannol, mae'n ddrwg gennym eich hysbysu na allwn ddarparu te a choffi yn y digwyddiadau hyfforddi yn ystod 2019-20, rydym yn eich cynghori i fynd â diodydd a phecyn bwyd gyda chi i ddigwyddiadau. |
Darparwr y cwrs
Credu
Nodau ac amcanion
Sut y gellir cynnal asesiadau mewn modd sy'n hyrwyddo lles gofalwyr a'u galluogi i helpu'r rhai dan eu gofal?
Mae'r hyfforddiant hwn yn ymdrin ag asesu anghenion gofalwyr. Erbyn diwedd yr hyfforddiant byddwch:
- yn deall y cyd-destun i ofalwyr a'r goblygiadau o ran cymorth i ofalwyr
- yn trafod y rhwystrau o ran adnabod gofalwyr
- yn glir am hawliau gofalwyr i gael asesiad
- yn adlewyrchu ar bwysigrwydd defnyddio dulliau cyfathrebu cydweithredol wrth weithio â gofalwyr
- yn ymwybodol o'r hyn sydd angen ei gofnodi
- yn deall canlyniadau a sut i adolygu cynnydd.
Mae asesiadau'n arf bwerus, nid yn unig i wella bywydau gofalwyr a theuluoedd ond gall hefyd ddylanwadu ar newid ehangach.
Dyddiad | Lleoliadau | Amseroedd |
---|---|---|
TBC |
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd. |
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau