Llyfrgelloedd Powys yn dathlu Pen-blwydd Sali Mai yn 50!

3 Medi 2019
Dathlodd cymeriad llyfr poblogaidd plant a ffrind plant Cymru, Sali Mali, ei phen-blwydd yn hanner cant dros yr haf. I ddathlu, cynhaliodd Llyfrgelloedd Powys gystadleuaeth i blant cyn-ysgol i ddylunio cerdyn pen-blwydd iddi.
Bu llyfrgelloedd Machynlleth a Llanfair-ym-Muallt wrthi'n cynnal partion pen-blwydd hanner cant ar ddiwedd y tymor ysgol gyda phlant o'r grwpiau Cylch Meithrin lleol yn mynychu. Buont hefyd yn ddigon lwcus i groesawu Sali Mali i'r partion. Yn ddiweddar, derbyniodd y plant a ddyluniodd y cardiau pen-blwydd gorau eu gwobrau gan Sali Mali.
Dywedodd y Cynghorydd Portffolio ar farterion Pobl Ifanc a Diwylliant, y Cynghorydd Rachel Powell: "Mae'n wych gweld rhai o'n plant yn cyfarfod â Sali Mali ei hun ac yn dathlu yn eu llyfrgelloedd lleol.
Ychwanegodd: "Un o nodau cenhedaeth y gwasanaethau diwylliannol yw cynnig cyfleoedd i blant fwynhau gweithgareddau ychwanegol sy'n cynnwys sgiliau creadigol mewn celf, darllen a datblygu cymdeithasol gyda chymeriadau fel Sali Mali gan gynnwys cystadlaethau ar gyfer chwarae rôl a dylunio. Mae staff a gwirfoddolwyr ein llyfrgelloedd bob amser yn chwilio am syniadau i annog plant ifanc i gymryd rhan ac mae'r gystadleuaeth dylunio carden pen-blwydd wedi bod yn llwyddiant mawr arall."
Roedd tri enillydd o'r canghennau: - Camille Bowler Griffiths, Non Lloyd a Zoe Claridge a gwobrau i'r rhai a ddaeth yn agos at y brig. Yr enillydd ar draws Powys gyfan oedd Dexter Morgan.