Agor cyfnewidfa bysus yn swyddogol

4 Medi 2019
Mae'r cyngor sir wedi agor yn swyddogol cyfnewidfa drafnidiaeth benodol yn un o drefi canol Powys.
Roedd cynrychiolwyr Cyngor Sir Powys a Chyngor Tref Llandrindod yn bresennol ar ddydd Mercher, 28 Awst i agor y gyfnewidfa drafnidiaeth ar Station Crescent yn Llandrindod.
Mae'r gyfnewidfa newydd yn ganolfan ganolog sy'n cysylltu gwasanaethau bws a thrên mewn un man, gyda lloches i feiciau a safleoedd bws. Mae'r ganolfan hefyd yn cynnwys man gwybodaeth ryngweithiol sy'n rhoi gwybodaeth yn y fan a'r lle ar faint o'r gloch bydd bysus yn cyrraedd.
Diolch i nawdd o £700,000 gan Lywodraeth Cymru, roedd y cyngor wedi gallu prynu'r tir ar Station Crescent, sef safle hen garej, ac adeiladu'r gyfnewidfa.
Fel rhan o'r prosiect, bu'r cyngor yn gweithio'n agos â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i wella'r seilwaith i ddefnyddwyr cludiant cyhoeddus sy'n byw ac yn dod i Landrindod. Roedd yn bosibl symud maes parcio'r bwrdd iechyd i ffwrdd o'r orsaf reilffordd i dir yr hen garej.
Erbyn hyn mae'r gyfnewidfa'n derminws gwell a mwy diogel i'r rhai sy'n defnyddio bysus yn aml i ddod i'r dref. Mae hefyd wedi datrys problemau tagfeydd o gwmpas yr orsaf reilffordd lle fyddai bysus sy'n mynd tua'r gogledd a'r de'n cwrdd.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Davies, Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet ar faterion Trafnidiaeth: "Mae'n bleser cael agor y gyfnewidfa hon yn swyddogol. Mae'n hwb anferthol i'r dref ac yn golygu bod pobl a busnesau'n gallu teithio'n ddiogel.
Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am ariannu'r prosiect sydd wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i drigolion a'r rhai sy'n ymweld â Llandrindod.
"Mae'r prosiect hefyd wedi tynnu sylw at yr hyn y gellir ei gyflawni trwy gydweithio â'n partneriaid yn y sector cyhoeddus. Mae trigolion, ymwelwyr a busnesau oll wedi elwa, diolch i gydweithio â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar y prosiect cyfnewidfa drafnidiaeth."
Dywedodd Hayley Thomas, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: "Mae hwn wedi bod yn gam pwysig ymlaen i deithio a thrafnidiaeth yn Llandrindod. Yn ogystal â chreu cyfnewidfa drafnidiaeth bwysig i'r dref, mae wedi ein helpu ni i barhau i wella mynediad a chyfleusterau parcio i gleifion, ymwelwyr a staff sy'n defnyddio Ysbyty Coffa Llandrindod."