Tendr Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Y Trallwng i'w gyhoeddi

11 Medi 2019
Mae Cyngor Sir Powys wedi dweud y bydd pecyn tendr i gwblhau ysgol gynradd newydd yn y Trallwng yn cael ei gyhoeddi ddiwedd y mis hwn (Medi).
Mae'r cyngor yn chwilio am gontractwyr i orffen Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Y Trallwng ar gyfer 360 o ddisgyblion, sy'n cael ei hadeiladu fel rhan o raglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain Llywodraeth Cymru.
Mae cyhoeddi'r pecyn tendro yn gam mawr ymlaen i'r prosiect adeiladu ar gyfer yr ysgol hon.
Dechreuodd y gwaith ar yr ysgol newydd fis Gorffennaf diwethaf ond daeth i stop sydyn ym mis Mawrth pan aeth y prif gontractwr, Dawnus Construction Ltd, i ddwylo'r gweinyddwyr.
Mae'r prosiect wedi cyrraedd tua hanner ffordd gyda 27 wythnos allan o raglen 52 wythnos wedi'u cwblhau cyn yr aeth y cwmni i ddwylo'r gweinyddwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Myfanwy Alexander, Aelod Cabinet ar faterion Addysg a'r Iaith Gymraeg: "Mae wedi bod yn gyfnod rhwystredig i bobl leol ac rydym i gyd yn awyddus i weld yr ysgol newydd yn cael ei chwblhau yn ddi-oed ond roedd rhaid cwblhau nifer o gamau cymhleth cyn ein bod yn barod i roi'r tendr allan i gwblhau'r gwaith.
"Rydym yn gweithio'n galed iawn i gadw'r oedi cyn lleied â phosib a hoffwn roi fy niolch personol i gymuned yr ysgol sydd wedi parhau i weithio gyda'i gilydd yn gynhyrchiol ac mewn hwyliau da yn ystod y cyfnod anodd hwn."
Cyhoeddir manylion y tendr ar wefan etenderwales.
Mae'r ysgol newydd yn rhan bwysig o adolygiad y cyngor sir o addysg gynradd yn y Trallwng, a'r nod yw agor yr ysgol erbyn Medi 2020.