Angen newidiadau i ddull ariannu

19 Medi 2019
Mae Cyngor Sir Powys wedi datgan bod angen adolygu cyllid llywodraeth leol yng Nghymru ar frys i roi'r gefnogaeth sydd ei angen ar gynghorau gwledig i gynnal gwasanaethau hanfodol.
Mae'r cyngor, sef yr awdurdod gwledig mwyaf y wlad, wedi datgan bod angen adolygiad o'r fformiwla ariannu a mwy o gefnogaeth i gydnabod cost darparu gwasanaethau hanfodol megis ysgolion a gofal cymdeithasol ar draws ardal ddaearyddol fawr.
Bydd y cais yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru gan Arweinydd a chabinet y cyngor mewn cyfarfod yng Nghaerdydd heddiw (Dydd Iau).
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Rosemarie Harris: "Nid ydym yn gofyn am driniaeth arbennig ond am gydnabyddiaeth bod darparu gwasanaethau ym Mhowys yn llawer mwy costus nag ardaloedd trefol a bod angen rhagor o gyllid i sicrhau bod yr amodau yr un fath i bawb.
"Rydym wedi gweld ein cyllid yn gostwng o 20 y cant o ganlyniad i galedi a newidiadau i flaenoriaethau gwariant cenedlaethol ar adeg pan fod pwysau, yn enwedig o fewn gofal cymdeithasol, ar gynnydd.
"Mae'r cyngor wedi chwarae ei ran trwy leihau gwariant cyffredinol o £100m yn ystod y degawd diwethaf a chynyddu treth y cyngor y llynedd o 9.5 y cant, i'r pwynt lle mae bellach yn 30 y cant o'n hincwm net - y gyfran uchaf yng Nghymru.
"Heb newidiadau i'r fformiwla ariannu neu gynnydd yn nyraniad ariannol blynyddol y sir, bydd y cyngor sir yn cael ei orfodi i gwtogi'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu a bydd preswylwyr yn llygad eu lle yn cwyno eu bod yn talu'n fwy am lai.
"Mae'r cyngor wedi cynnal ei ddadansoddiad ei hun o'r gwahaniaeth rhwng costau darparu gwasanaethau trefol a gwledig ac mae'r canfyddiadau'n amlwg os nad yn syndod.
Prif ganfyddiadau
- Powys yw'r sir fwyaf prin ei phoblogaeth yng Nghymru, gydag ond 26 o bobl fesul pob cilomedr sgwâr, cyfartaledd Cymru yw 150 y cilomedr
- Mae Powys yn sir wledig gyda dros hanner ei thrigolion yn byw mewn pentrefi, pentrefannau neu aneddiadau gwasgaredig - 58.7% - cyfartaledd Cymru yw 17.1%
- Mae gan Bowys fwy o ffyrdd i'w cynnal 5,077 o gilomedrau - yr ail uchaf yw Sir Gaerfyrddin gyda bron i 2000 o gilomedrau'n llai
- Ni all mwy na chwarter (28%) yr eiddo ym Mhowys dderbyn 30 Mbit/s yr eiliad o fand eang gyda 17% yn derbyn 10 Mbit/s yr eiliad yn unig
- Cost Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol ar hyn o bryd yw £10.4 miliwn y flwyddyn
- Mae 28% o blant cynradd yn teithio dros ddwy filltir un ffordd i'r ysgol
- Mae 52% o ddisgyblion uwchradd yn teithio mwy na thair milltir un ffordd i'r ysgol
"Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru am chwarae teg, ni ddylwn fod yn gofyn i'n trigolion i gario baich ychwanegol oherwydd eu bod wedi dewis byw mewn sir wledig. Mae Powys yn haeddu fformiwla decach i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol," ychwanegodd.
I ddarllen y dadansoddiad llawn - cliciwch yma i weld y ddogfen Sway.