Sioeau teithiol wedi'u trefnu ar gyfer Wythnos Ailgylchu 2019

20 Medi 2019
Bydd swyddogion gwastraff o Gyngor Sir Powys yn cynnal sioeau teithio yn hwyrach y mis hwn i ddarparu gwybodaeth am sut y gall pobl ailgylchu mwy.
Bydd y swyddogion yn ymweld ag archfarchnadoedd a llyfrgell ym Mhowys yn ystod Wythnos Ailgylchu 2019, sy'n dechrau ddydd Llun, 23 Medi.
Mae Wythnos Ailgylchu yn ddathliad o ailgylchu a nod yr wythnos yw annog pawb i ailgylchu mwy a hefyd i ddangos y manteision o ailgylchu eitemau o'r cartref.
Bydd swyddogion ymwybyddiaeth gwastraff yn y lleoliadau canlynol yn ystod Wythnos Ailgylchu:
- Dydd Mawrth, 24 Medi - Co-op-, Llanfair-ym-Muallt
- Dydd Mercher, 24 Medi - Tesco, Llandrindod
- Dydd Gwener, 27 Medi - Co-op, Llanidloes
Bydd sioe ailgylchu yn cael ei chynnal yn Llyfrgell Y Drenewydd ar ôl Wythnos Ailgylchu ar ddydd Mawrth, 1 Hydref rhwng 10am-2pm.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Gwastraff ac Ailgylchu: "Ry'n ni'n falch iawn o'n hanes ailgylchu ac ymdrechion ein trigolion i ailgylchu cymaint ag y gallant.
"Fodd bynnag, ry'n ni'n gwybod y gallwn wneud rhagor ac mae Wythnosau Ailgylchu yn rhoi cyfle i ddangos faint o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu yn lle eu hanfon i safleoedd tirlenwi.
"Hoffwn annog trigolion i daro heibio un o'n sioeau teithiol ac i siarad â'n swyddogion ymwybyddiaeth gwastraff wyneb yn wyneb ac i gael awgrymiadau a chyngor defnyddiol ar sut i hybu eu hymdrechion ailgylchu."