Ocsiwn o eiddo dros ben

24 Medi 2019
Mae Cyngor Sir Powys wedi cadarnhau y bydd yn gwerthu wyth eiddo dros ben, gan gynnwys hen ganolfan addysg awyr agored, tyddyn a thir datblygu mewn ocsiwn cyhoeddus fis nesaf.
Bydd yr ocsiwn cyhoeddus yn dilyn un tebyg a gynhaliwyd ar ddechrau'r flwyddyn pan gafodd naw eiddo eu gwerthu gan Brightwells Ltd (Llanfair-ym-Muallt) gan wneud dros £630,000 i'r cyngor sir.
Cynhaliwyd yr ocsiwn hwn yn y Metropole yn Llandrindod gan ddenu dros 120 o bobl, a phobl o bob cwr o'r wlad yn cynnig dros borth bidio byw Brightwells, a hyn yn oed un yn galw o Seland Newydd.
Bydd ocsiwn nesaf Brightwells Ltd yn cael ei gynnal yn y Metropole, Llandrindod ar 31 Hydref gydag amcanbrisiau o dros £850,000.
Dyma fanylion yr eiddo dan sylw:
Hen Ganolfan Addysg Awyr Agored, Penffordd-las, Llanidloes - adeilad sylweddol gyda thua 1.27 erw o dir. Mae'n cynnwys 9 ystafell wely a llety cysylltiedig. Wedi'i leoli ym Mynyddoedd y Cambria a ger Llyn Clywedog. Amcanbris £230,000.
Tir Datblygu yng Nghwmbach ger Y Clas-ar-Wy - safle datblygu preswyl ym mhentref bach dymunol Cwmbach ger pentref Y Clas-ar-Wy ac yn edrych dros Ddyffryn Gwy. Mae'r safle tua 1 erw ar dir maes glas ar lethr ysgafn ac mae'n cael ei werthu gyda chaniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer 8 annedd, ar yr amod bod 30% o'r tai hyn yn dai fforddiadwy. Amcanbris £210,000.
Hafodty, Llansilin - hen dŷ fferm a thai allan ar safle uchel gyda golygfeydd dros gefn gwlad. Posibilrwydd o'i ddatblygu (yn amodol ar gael y caniatâd cynllunio angenrheidiol). Amcanbris £40,000
1 Hill Cottage, Hawy ger Llandrindod: Tyddyn gyda phosibilrwydd o'i ddatblygu (yn amodol ar gael y caniatâd angenrheidiol) ym mhentref Hawy, gyda thŷ 3 ystafell wely, a nifer o adeiladau traddodiadol o fewn 2.80 erw gyda rhan ohono o fewn ffin datblygu Cynllun Datblygu Lleol Powys 2011-2026. Amcanbris £200,000.
Hen Lyfrgell Llanfair-ym-Muallt: Eiddo deulawr blaenllaw yng nghanol y dref gyda'r posibilrwydd o'i addasu at ddefnydd masnachol (yn amodol ar ganiatâd cynllunio). Amcanbris £100,000.
Hen doiledau cyhoeddus, Llandrindod - adeilad un llawr ar wahân ger canol y dref. Amcanbris £15,000.
27 Hen Ffordd Ceri, Y Drenewydd: Tŷ canol teras tri llawr, 4 ystafell wely sydd angen ei adnewyddu. O fewn pellter cerdded i ganol y dref ac yn gyfleus i'r orsaf drenau. Amcanbris £80,000.
Tir yng Nghoelbren ger Ystradgynlais: Darn o dir sydd tua 0.54 ha (1.32 erw) ar ymyl y pentref.