Treialu teclyn aml-gyfrwng i gefnogi disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol

24 Medi 2019
Mae Cyngor Sir Powys yn mynd i dreialu teclyn eirioli amlgyfrwng newydd i gefnogi plant a phobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol.
Bydd y cyngor yn treialu RIX Wiki fel rhan o'i Raglen Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Gwefan personol syml a hawdd i'w adeiladu yw Wiki. Gellir cael mynediad ato trwy ddefnyddio cyfrifiadur personol, gliniadur, ffôn clyfar neu lechen. Gellir eu defnyddio i greu cynlluniau amlgyfrwng sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n defnyddio lluniau, geiriau fideo a sŵn i ddal llais, sgiliau, dyheadau ac anghenion yr unigolyn.
Mae Wiki yn cael ei weld fel teclyn defnyddiol iawn i gefnogi addysg, iechyd a chynllunio gofal ar gyfer plant a phobl gydag anghenion dysgu ychwanegol.
Mae'r cyngor yn ystyried Wiki i fod yn declyn pwysig i'w helpu i fodloni gofynion Deddf Tribiwnlys Addysg ac Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2018, sy'n nodi'r pwysigrwydd o gael barn a theimladau'r dysgwyr wrth galon y broses o gynllunio'r cymorth sydd ei angen i'w galluogi i oresgyn rhwystrau i ddysgu a chyflawni eu potensial llawn.
I ddechrau, bydd y treial wedi'i gyfyngu i nifer fechan o ysgolion ond bydd yn cael ei ehangu os yw'n llwyddiannus.
Dywedodd y Cynghorydd Myfanwy Alexander, Aelod Cabinet ar faterion Addysg a'r Iaith Gymraeg: "Gallai hyn fod yn declyn gwerthfawr iawn i'n dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol gan ganiatáu iddyn nhw chwarae mwy o rôl wrth gynllunio eu gofal a rhannu'r wybodaeth sy'n bwysig iddyn nhw. Bydd y peilot hwn yn dysgu ffyrdd i ddefnyddio hyn ac os gall fod yn rhan o'n cynlluniau yn y dyfodol."
Datblygwyd RIX Wiki gan RIX Research and Media, canolfan ymchwil a datblygu rhyngwladol sydd wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Dwyrain Llundain. Yn y fan yma, maen nhw'n ymchwilio a datblygu ffyrdd o ddefnyddio technolegau newydd i drawsnewid bywydau pobl ag anableddau dysgu.
I gael rhagor o wybodaeth am RIK Wiki ewch i www.rixwiki.org/
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y treial anfonwch e-bost at aln.transformation@powys.gov.uk