Cyhoeddiad gan y Cabinet

24 Medi 2019
Yn dilyn ymddiswyddiad Aelodau o'r Cabinet yn gynharach heddiw, mae'r Arweinydd, y Cynghorydd Rosemarie Harris wedi cymryd camau cyflym i ad-drefnu cyfrifoldebau allweddol y Cabinet, gyda'r newidiadau'n dod i rym ar unwaith.
Mae'r Cynghorydd Myfanwy Alexander wedi'i phenodi'n Aelod sydd â Chyfrifoldeb dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion a'r Cynghorydd Phyl Davies yn cael ei benodi'n Aelod sydd â Chyfrifoldeb dros Addysg. Bydd y Cynghorydd Alexander yn parhau yn gyfrifol am yr iaith Gymraeg. Bydd newidiadau pellach, yn cynnwys cynlluniau i gynyddu'r Cabinet i 10 Aelod, yn cael eu gwneud yn y man.
Dywedodd y Cynghorydd Rosemarie Harris "Rwy'n gwneud y newidiadau hyn i fy Nghabinet heddiw gan ei bod yn bwysig fod gennym Aelodau Cabinet profiadol yn y swyddi allweddol hyn er mwyn gallu parhau i drawsnewid y meysydd Addysg a Gofal Cymdeithasol."