Dyfodol Llyfrgelloedd Powys
Yn ystod 2019 rydym wedi ymgynghori â thrigolion, cynghorau tref a chymuned, staff llyfrgelloedd, gwirfoddolwyr, Fforwm Ieuenctid Powys a phobl sy'n defnyddi'r gwasanaeth Silff Symudol i gael eu barn a'u syniadau i'n helpu ni i gyrraedd ein targedau o ran y gyllideb.
Gwnaethoch chi ddweud ...
Mae'r rhan fwyaf o lawer o'n trigolion yn gwerthfawrogi llyfrgelloedd
Maen nhw hefyd yn gwerthfawrogi'r llyfrgellwyr sydd wedi'u hyfforddi a'r gwirfoddolwyr
Dylem ystyried pob un dewis sy'n caniatáu iddynt aros ar agor - ymddiriedolaethau, cymorth gan gynghorau tref a chymuned, rhedeg yn wirfoddol, partneriaethau
Gwnaethoch chi ddweud hefyd ...
Mae llyfrgelloedd i bawb, maen nhw'n cynnig lle diogel, cymdeithasol a chroesawgar i lawer, ac yn anad dim maen nhw'n helpu trigolion agored i niwed - pobl sy'n chwilio am swydd, mamau ifanc ac ati
Mae cydleoli'n dderbyniol mewn achosion lle mae'n arbed arian a phartneriaid yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu a lefel gwasanaeth sy'n debyg neu'n gyffredinol well
Mae llyfrgelloedd yn gweithredu fel canolfannau cymunedol sydd eisoes yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau dan yr unto - mae cau'r llyfrgelloedd yn debygol o gynyddu'r costau mewn meysydd eraill - gofal cymdeithasol, tai, iechyd meddwl
Dylai Powys lobïo Llywodraeth Cymru am ragor o arian.