HYSBYSIAD: Gweithredu'r tâl o £500 i weithwyr gofal
Darllen mwy

Ffordd ar gau

Image of a road closed sign

30 Medi 2019

Image of a road closed signBydd yr A490 ger Cegidfa ar gau am gryn amser wedi i ryw 100 tunnell o ddeunydd lithro i'r ffordd fawr yn ôl Cyngor Sir Powys. 

Digwyddodd y tirlithriad ger Parc Gwyliau Valley View, Pentre'r Beirdd ddydd Sul ar ôl oriau o law trwm, gan gau'r ffordd rhwng Y Trallwng a'r A495.  Mae gwyriadau mewn lle.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys: "Mae tua 100 tunnell o bridd, cerrig a choed wedi llithro i'r ffordd fawr ac mae peirianwyr priffyrdd wrthi'n asesu'r safle.

"Rydym yn gweithio gyda Pharc Gwyliau Valley View, ond mae'n debygol y bydd y ffordd ar gau am dipyn.  Fe wnawn roi gwybod i drigolion a gyrwyr pan ddaw mwy o wybodaeth i law."

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu