Cabinet wedi'i gadarnhau

2 Hydref 2019
Mae ad-drefniant o gyfrifoldebau cabinet Cyngor Sir Powys wedi cael ei gwblhau gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Rosemarie Harris.
Cyhoeddwyd y newidiadau heddiw (dydd Mawrth), yn dilyn ymddiswyddiad dau aelod o'r cabinet yr wythnos ddiwethaf a byddant yn effeithio ar bob maes gwasanaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Rosemarie Harris: "Bydd y newidiadau rwy'n eu cyhoeddi heddiw yn dod i rym ar unwaith ac fe'u cynlluniwyd i roi heriau newydd a phrofiad ehangach i aelodau'r cabinet o holl waith y cyngor".
"Bydd y cabinet yn parhau gydag wyth aelod am y tro gyda rhai newidiadau angenrheidiol yng nghyfrifoldebau'r aelodau portffolio."
"Fel Cabinet mae gennym agenda sylweddol. Wrth i nifer o raglenni strategol ddechrau cyflymu, byddaf yn cadw golwg ar nifer yr aelodau Cabinet ac efallai'n codi'r nifer i 10 maes o law."
Bydd y cyfrifoldebau portffolio fel a ganlyn:
- Cyng. Rosemarie Harris, Arweinydd
- Cyng. Aled Davies, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio ar faterion Cyllid, Cefn Gwlad a Thrafnidiaeth
- Cyng. Myfanwy Alexander, Aelod Portffolio ar faterion Gofal Cymdeithasol Oedolion a'r Iaith Gymraeg
- Cyng. Graham Breeze, Aelod Portffolio ar faterion Llywodraethu Corfforaethol ac Ymgysylltu
- Cyng. Phyl Davies, Aelod Portffolio ar faterion Addysg ac Eiddo
- Cyng. James Evans, Aelod Portffolio ar faterion Datblygu Economaidd, Tai a Gwasanaethau Rheoleiddio
- Cyng. Heulwen Hulme, Aelod Portffolio ar faterion yr Amgylchedd
- Cyng. Rachel Powell, Aelod Portffolio ar faterion Pobl Ifanc a Diwylliant