Croesawu Cyllid

2 Hydref 2019
Datganiad gan Gyd-Gadeiryddion Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, y Cynghorwyr Ellen ap Gwynn a Rosemarie Harries.
"Rydym yn croesawu'r newyddion am gyllid ar gyfer Canolbarth Cymru. Mae'r rhanbarth wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU a Chymru, y sector preifat a phartneriaid yn y sector cyhoeddus/trydydd sector ehangach i adeiladu gweledigaeth gref ar gyfer tyfu economi Canolbarth Cymru. Gyda'n gilydd, rydym yn ymroddedig i gyflawni'r canlyniadau gorau ar gyfer economi'r rhanbarth - ac rydym wedi buddsoddi'r amser i gael y llywodraethu a'r weledigaeth strategol ar gyfer ein rhanbarth yn iawn.
"Mae'r Rhanbarth yn croesawu'r cyhoeddiad hwn ar gyfer ariannu'r Fargen Twf, ac edrychwn ymlaen at barhau i ddatblygu ein pecyn o gynigion mewn partneriaeth er mwyn gwireddu ein gweledigaeth ehangach ar gyfer twf economaidd. Bydd hynny'n sbarduno buddsoddiad mewn sgiliau, arloesedd, cysylltedd a swyddi mwy cynhyrchiol sy'n cefnogi cymunedau llewyrchus a dwyieithog."