1. Logio Mewn / Cofrestru
  2. English
Close Icon
  1. Logio Mewn / Cofrestru

Perfformwyr ar gyfer Gŵyl Lenyddol yn cael eu datgelu

Image cynrychioli Perfformwyr ar gyfer Gŵyl Lenyddol yn cael eu datgelu

3 Hydref 2019

booksBydd dros 20 o awduron a beirdd yn dod i dref yng nghanolbarth Powys y mis nesaf ar gyfer gŵyl lenyddol.

Bydd awduron a beirdd lleol yn cymryd rhan yng Ngŵyl Lenyddol Gymunedol Tref-y-clawdd.  Bydd yr ŵyl yn cynnwys cerddoriaeth fyw bob bore yn ogystal â gweithdai ac ystod o stondinau yn arddangos gwaith a chynnyrch artistiaid a chynhyrchwyr lleol.

Bydd yr ŵyl yn rhedeg o 30 Hydref tan 2 Tachwedd 2019 yng Nghanolfan Gymunedol Tref-y-clawdd a bydd y mynediad am ddim. 

Bydd James O'Neil, enillydd gwobr 'Llyfr yr Wythnos' yr Observer yn cyflwyno blas o'r ffiniau rhwng y Seicotherapydd a chleifion.  Diolch i'r galw mawr, bydd Hugh Purcell yn dychwelyd i siarad am ei lyfr 'Love and War in Spain'.

Bydd yr awduron eraill yn cynnwys:

Peter Conradi
Judith Barrow
Tanvir Bush
Ali Ford
Carol Graham
Mel Bryan
Thirza Clout
Meg Cox
The Marches Poets

I gael rhagor o wybodaeth a'r rhestr lawn ewch i: www.powys.gov.uk/article/5026/Knighton-Literary-Festival neu galwch heibio Llyfrgell Tref-y-clawdd.

 

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu