Allech chi wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc ym Mhowys?

9th Hydref 2019
Mae sesiynau taro heibio'n cael eu cynnal ar draws Powys i ddod o hyd i ofalwyr maeth newydd a phobl sy'n barod i fabwysiadu.
Bydd cyfres o sesiynau anffurfiol yn cael eu cynnal dros y mis nesaf fel rhan o ymgyrch Cyngor Sir Powys i recriwtio pobl sy'n barod i faethu a mabwysiadu.
Os allwch chi gynnig cartref diogel a chysurus i blant, pobl ifanc a brodyr a chwiorydd lleol, galwch heibio i weld y tîm yn un o'r sesiynau uchod yn:
· Ystafell Gymunedol Hafrenydd, Llanidloes: 15 Hydref, 10am - 1 pm
· Ffair Gymunedol Llanfair-ym-Muallt, Wyeside, Llanfair-ym-Muallt: 18 Hydref, 11am - 2pm
· Neuadd y Dref, Talgarth: 24 Hydref, 2pm - 4pm
· Swyddfa Tai, St Edwards Close, Tref-y-clawdd: 7 Tachwedd, 1pm - 4pm
· Yr Hen Siop, Bryn y Gog, Machynlleth: 26 Tachwedd, 10am - 1 pm
Ychwanegodd y Cynghorydd Rachel Powell, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar Wasanaethau Plant: "Os ydych chi'n frwd am gefnogi anghenion plant a phobl ifanc ac am fod yn rhan o'u taith gydol oes, yna dewch draw am sgwrs gyda'n tîm cyfeillgar a phroffesiynol. Efallai mai chi fydd yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant a phobl ifanc ym Mhowys."
 diddordeb ac am wybod mwy? Galwch 0800 22 30 627