Y cyngor yn datgan y gallai Taliadau Uniongyrchol fod yr ateb i fwy o bobl

10 Hydref 2019
Mae'r chwaraewr tennis bwrdd Paralympaidd Rob Davies MBE yn un o ddwsinau o bobl ym Mhowys sydd nawr yn rheoli eu gofal cymdeithasol gyda Thaliadau Uniongyrchol.
Mae Cyngor Sir Powys yn dweud y gallai hyn fod yn opsiwn i lawer mwy gan fod Taliadau Uniongyrchol yn rhoi mwy o reolaeth i bobl dros eu bywydau a sut mae eu gofal yn cael ei ddarparu trwy hyrwyddo annibyniaeth, dewis a chynhwysiant.
Mae Rob, sy'n byw yn ne'r sir, yn derbyn arian gan y cyngor ac mae'n gallu ei ddefnyddio i gyflogi pobl i ddarparu ei ofal. Hefyd, mae 'PeoplePlus Independent Living Services' yn ei helpu i reoli ei ofal gan ddefnyddio ei Daliadau Uniongyrchol.
"Rwy'n defnyddio'r arian i gyflogi tri Chynorthwyydd Personol neu ofalwyr ac mae'n gweithio'n dda i mi. Rwyf wedi derbyn Taliadau Uniongyrchol ers i mi ddod allan o'r Ysbyty yn 2006 ac fe wnaeth fy ngweithiwr cymdeithasol ei drefnu i mi," dywedodd Rob.
Esboniodd ei fod yn gallu teilwra ei ofal i gwrdd â'i ofynion penodol, gan gynnwys ei gefnogi i fynychu ei sesiynau hyfforddi rheolaidd yng Nghaerdydd a phan deithiodd i Frasil i gystadlu yn y Gemau Paralympaidd yn 2016, lle cipiodd y Fedal Aur yn y Tennis Bwrdd Sengl i Ddynion, Dosbarth 1.
"Rwy'n rheoli'r cyfrifon ac yn cyflogi'r bobl fy hunan oherwydd dyna'r ffordd sy'n well gen i. Rwy'n gallu dewis y bobl rydw i eisiau, y cymeriadau rwy'n eu hoffi. Ni fyddwn wedi gallu cyrraedd lle rydw i heddiw, na mynd i'r Gemau Paralympaidd, heb allu rheoli fy ngofal fel hyn," dywedodd Rob, a dderbyniodd ei MBE yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd ar ddiwedd 2016.
Mae PeoplePlus yn gallu rhoi cefnogaeth a helpu pobl i ddeall y ffordd y gellir defnyddio Taliadau Uniongyrchol ar eu cyfer, fel recriwtio yn cynnwys hysbysebu swyddi gwag, cyflogi cynorthwywyr personol, cyngor ac arweiniad parhaus am bob agwedd o reoli cyfrifon taliadau uniongyrchol. Mae PeoplePlus wedi'i gontractio gan y cyngor i ddarparu'r gwasanaeth hwn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Daliadau Uniongyrchol yn https://cy.powys.gov.uk/article/1580/Daliadau-Uniongyrchol neu drwy ffonio gwasanaeth y cyngor CYMORTH ar 0345 602 7050.
Y Cynghorydd Myfanwy Alexander yw Aelod Cabinet y cyngor gyda chyfrifoldeb am Ofal Cymdeithasol Oedolion. Dywedodd: "'Mae Rob yn enghraifft dda o rywun sy'n defnyddio'r Taliadau Uniongyrchol mewn ffordd sy'n gyfleus i'w ffordd ef o fyw a'i ddymuniadau. Mae'n system sy'n gallu elwa nifer o bobl, felly beth am weld os byddai'n gweithio i chi neu eich anwyliaid?'
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth PeoplePlus yn https://peopleplus.co.uk/communities/direct-payment-support-services/