Posibilrwydd o ail-agor ffordd yr wythnos nesaf yn dilyn tirlithriad

11 Hydref 2019
Mae'r cyngor sir wedi dweud y gallai ffordd yng ngogledd Powys a gaewyd y mis diwethaf oherwydd tirlithriad ailagor ddechrau wythnos nesaf
Mae ffordd yr A490 ger y Cegidfa wedi bod ar gau ers 30 Medi pan orchuddiwyd y ffordd gan swmp o ddeunydd yn cynnwys pridd, cerrig a choed. Digwyddodd y tirlithriad ger Parc Gwyliau Valley View, Pentre'r Bierdd.
Mae Cyngor Sir Powys wedi symud dros 3,000 o dunelli o ddeunydd o'r tirlithriad. Ar hyn o bryd, mae peiriannau cloddio yn symud y tomen a heddiw (Dydd Gwener, 11 Hydref) bydd ffos ddraenio yn cael ei gosod i gyfeirio'r dŵr arwynebol ar y safle i system ddraenio benodol.
Fodd bynnag, gyda disgwyl glaw trwm dros y 48 awr nesaf, bydd y ffordd yn para ar gau dros y penwythnos ac yn cael ei monitro dros y penwythnos.
Bydd trefniadau'n cael eu gwneud i lanhau'r A490 ddydd Llun. Bydd ymweliad safle pellach yn digwydd ar ôl y glanhau gyda'r bwriad o ail-agor y ffordd nos Lun neu fore Mawrth.
Dywedodd y Cynghorydd Heulwen Hulme, Aelod y Cabinet ar faterion yr Amgylchedd: "Rydym yn gwerthfawrogi'r anghyfleustra i'r cyhoedd ac rydym yn ymddiheuro am hyd yr amser mae'r ffordd wedi bod ar gau ond diogelwch defnyddwyr y ffordd yw'r peth pwysicaf a dyna beth fydd y flaenoriaeth bob tro."