Cau Ffordd

11 Hydref 2019
Mae modurwyr De Powys yn cael eu rhybuddio y bydd ffordd yr A4067 ar gau ddydd Mercher 30 Hydref am 12 awr er mwyn gwneud gwaith hanfodol ar bont.
Bydd y ffordd ar gau rhwng 7am tan 7pm a bydd craen 200 tunnell yn cael ei defnyddio er mwyn cael gwared ar 'Bont Bailey' - sy'n cael ei hadnabod yn lleol fel pont bailey y 'Lamb and Flag'. Mae'r bont yn gwasanaethu chwe eiddo ar ochr ddwyreiniol yr Afon Tawe.
Bydd gwyriad yn ei le, o tua 22 cilomedr o hyd, trwy gydol yr amser y bydd y ffordd ar gau gyda thraffig yn cael ei gyfeirio trwy Ystradgynlais, Crynant a Choelbren. Bydd y cyfyngiad pwysau amwynder 7.5t MGW yn cael ei ohirio ar y diwrnod y bydd y ffordd ar gau.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys: "Rydym yn sylweddoli y bydd cau'r ffordd yn anghyfleus i fodurwyr lleol ond y nod yw lleihau'r problemau trwy roi rhybudd ymlaen llaw. Mae'r gwaith yn hanfodol ac nid oes unrhyw ddewis arall ond cau'r ffordd."
Bydd arwyddion yn rhoi rhybudd ymlaen llaw ger y safle pythefnos cyn y bydd y ffordd yn cael ei chau.