Llyfrgelloedd yn gwrando ar anghenion plant ac oedolion ifanc

11 Hydref 2019
Bydd gwahoddiad yn cael ei roi i blant a phobl ifanc dan 16 oed sy'n defnyddio eu llyfrgell leol yn ystod yr wythnos i ddod - Dydd Llun 14 i ddydd Sadwrn 20 Hydref - i roi eu barn ar agweddau amrywiol o'r gwasanaeth fel rhan o arolwg ar draws Cymru gyfan.
Mae pob llyfrgell ledled Cymru yn cynnal yr arolwg yn ystod yr un wythnos. Y nod yw casglu a chymharu'r farn a roddir gan blant a phobl ifanc dros gyfnod i weld sut mae agweddau a barn tuag at y gwasanaeth yn newid a'r hyn sydd angen ei wneud i wella eu profiad.
Mae'r cwestiynau'n cynnwys yr hyn a wnaethon nhw yn ystod eu hymweliad a'u barn am sut mae'r gwasanaeth llyfrgelloedd yn eu helpu i wella eu darllen neu i wneud yn dda yn yr ysgol.
Bydd y canfyddiadau'n cael eu hadrodd i Lywodraeth Cymru ac fe'u defnyddir i fesur unrhyw newidiadau mewn defnydd gan y grŵp oedran penodol hwn.
Dywedodd y Cynghorydd Rachel Powell, Aelod Portffolio ar faterion Pobl Ifanc a Diwylliant: "Rydym yn edrych ymlaen at glywed barn plant a phobl ifanc am ein llyfrgelloedd a byddwn yn defnyddio eu hadborth i wella ein cynnig lle bynnag y gallwn. Rydym yn gwybod bod ein clybiau codio, sesiynau amser stori a chlybiau Lego yn boblogaidd ond hefyd mae ein hamrywiaeth wych o lyfrau plant yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ein nod yw annog plant ym Mhowys i garu darllen ac i fod yn chwilfrydig, bu hynny trwy ddefnyddio'r cyfrifiaduron am ddim i ddarganfod ffeithiau am y byd y maen nhw'n byw ynddo, neu trwy ddarllen llyfr traddodiadol, cerdd neu e-gomig."
Gofynnir i blant a phobl ifanc sy'n mynd i'r llyfrgell yn ystod cyfnod yr arolwg i lenwi holiadur syml a a chyfrinachol i roi eu barn. Os nad ydynt yn gallu ei lenwi ei hunain, gall rhiant/gofalwr neu aelod o staff y llyfrgell eu helpu. Bydd fersiwn ar-lein o'r arolwg ar gael ar gyfer yr wythnos yn www.powys.gov.uk/dweudeichdweud