Cosb benodedig i siopwr o Grughywel

14 Hydref 2019
Mae siopwr o dde Powys wedi cael dirwy am adael sbwriel yng Nghrughywel.
Rhoddwyd y ddirwy o £400 wedi i heddwas Dyfed-Powys wylio'r siopwr yn gosod dwy sach ddu'n llawn sbwriel masnachol mewn bin ar y stryd yng Nghrughywel ym mis Medi.
Cafodd y troseddwr ei gyfweld dan rybudd gan swyddogion tîm Ymwybyddiaeth a Gorfodi Gwastraff Cyngor Sir Powys a rhoddwyd dirwy o £400 iddo am dipio anghyfreithlon. Talwyd £200 o'r ddirwy, sy'n cael ei gynnig os bydd y troseddwr yn talu o fewn 10 diwrnod.
Mae'r biniau sbwriel cyhoeddus yno i bobl gael gwared ar ychydig o sbwriel i ffwrdd o'r cartref pan fydd pobl o gwmpas y lle. Ni cheir eu defnyddio ar gyfer gwastraff masnachol neu sbwriel cyffredinol o'r cartref.
Mae 'dyletswydd gofal' cyfreithiol ar fusnesau i sicrhau eu bod yn storio, casglu ac yn cael gwared ar/ailgylchu eu gwastraff yn broffesiynol. Mae'n anghyfreithlon defnyddio gwasanaethau gwastraff domestig ar gyfer gwastraff masnachol. Rhaid i bob busnes gyflogi cwmni gwastraff masnachol i gael gwared ar eu gwastraff yn gywir.
Dywedodd yr Aelod Cabinet ar yr Amgylchedd, y Cynghorydd Heulwen Hulme: "Mae'r rhan fwyaf o fusnesau ym Mhowys yn gweithredu'n gyfreithlon ac yn casáu'r math hyn o gamddefnydd. Mae ymddygiad anghyfrifol o'r fath yn creu gwaith ychwanegol i'r timoedd glanhau strydoedd, yn creu llanast yng nghanol ein trefi ac yn tanseilio busnesau lleol.
"Rydym yn ddiolchgar i Heddlu Dyfed-Powys am barhau i'n helpu ni dorri lawr ar ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddol."
Am gyngor ar wastraff masnachol ac ailgylchu ewch i : https://cy.powys.gov.uk/article/1115/Gwastraff-ac-Ailgylchu-Masnachol