Dirwy i fusnes ym Machynlleth am drosedd gwastraff

16 Hydref 2019
Mae busnes ym Machynlleth wedi cael dirwy o £300 am adael gwastraff masnachol mewn sachau duon yn y dref.
Derbyniodd swyddogion Ymwybyddiaeth a Gorfodi Gwastraff Cyngor Sir Powys gŵyn gan lanhawyr strydoedd fod gwastraff masnachol yn cael ei adael mewn sachau duon yn y dref.
Cyflwynwyd rhybudd cyfreithiol i fusnes lleol yn mynnu eu bod yn dangos dogfennau'n dangos bod ganddynt wasanaeth sbwriel ac ailgylchu dilys. Nid oedd y busnes yn gallu dangos sut oeddent yn cael gwared ar eu gwastraff, gan felly derbyn dirwy o £300.
Dywedodd yr Aelod Cabinet ar yr Amgylchedd, y Cynghorydd Heulwen Hulme: "Mae'n bwysig cadw canol ein trefi ni'n lân ac yn daclus i ddenu twristiaid ac i sicrhau amgylchedd hyfryd i drigolion a busnesau.
"Mae'r rhan fwyaf o'n busnesau ni'n deall bod ganddynt ddyletswydd gofal cyfreithiol i gael gwared ar eu gwastraff masnachol yn gywir a chadw tystiolaeth i brofi hynny. Yn anffodus mae ychydig yn methu gwneud hyn ac yn wynebu'r perygl o gael eu herlyn a dirwy o £300.
Am gyngor am wastraff masnachol ac ailgylchu, cysylltwch â trade.waste@powys.gov.uk
Defnyddir hysbysiadau cosb penodedig fel modd effeithiol o setlo achos.