Georgia nôl o'i thaith i Yale

Hydref 16, 2019
Mae disgybl chweched dosbarth o Ysgol Uwchradd Gwernyfed wedi dod nôl i Gymru ar ôl treulio pythefnos ym Mhrifysgol Yale yn yr Unol Daleithiau.
Aeth Georgia Allen, sy'n fyfyriwr Blwyddyn 13, i'r coleg fel rhan o Raglen Rhwydwaith Seren Llywodraeth Cymru - cynllun i helpu disgyblion academaidd iawn i gyrraedd prifysgolion gorau'r DU. Hi oedd yr unig un o Bowys i fynd ar y daith.
Esboniodd Georgia: "Dros yr haf, fe dreuliais i bythefnos ym Mhrifysgol Yale ac roeddwn yn ffodus i gael mynd i ddarlithoedd gwyddoniaeth gyda phobl o bob cwr o'r byd. Y tro cyntaf i mi glywed am hyn oedd yng nghynhadledd Seren yn Y Drenewydd yn gynharach eleni, a phenderfynais roi cynnig arni gan fod Seren yn helpu gydag ysgoloriaeth i'r ymweliad.
"Roedd yn agoriad llygad. Dysgais i gymaint, nid yn unig am wyddoniaeth ond am ddiwylliannau gwahanol. Fe wnes i gwrdd â phobl o Senegal, Honduras, Brasil ac o Dajikistan - nid oeddwn yn gwybod ei bod hi'n wlad hyd yn oed!" chwarddodd Georgia. "Roeddwn yn gwybod y byddai yna wahaniaethau diwylliannol, ond yn fwy pwysig, rydych yn sylweddoli faint sydd gennym yn gyffredin â phobl o wahanol wledydd."
Mynychodd nifer o ddarlithoedd ffiseg yn y brifysgol, yn dysgu am ffiseg ronynnol a damcaniaethol a dysgodd am ymchwil athrawon Yale i Dyllau Duon. Aeth hefyd i ddarlith ar ddeunydd tywyll gan athro fu'n gweithio ym Mhrifysgol Caergrawnt gyda'r Athro Stephen Hawking, yn ogystal â darlithoedd ar Wyddorau'r Ddaear gan gynnwys astudio cylchwyntoedd, darogan y tywydd a gwyddor bwyd.
"Yn un o'r darlithoedd hyn, roedd yna fyfyriwr o Buerto Rico ac roedd yn sôn bod ei gartref wedi cael ei ddinistrio'n llwyr gan gylchwynt."
Talodd deyrnged i'r Prosiect Seren: "Mae angen mwy o bethau fel hyn oherwydd mae'n gwthio'r myfyrwyr ac ry'ch chi'n sylweddoli ein bod ni cystal ag unrhyw un arall o bob rhan o'r byd. Mae Seren yn rhoi cyfle i ni berfformio ar lwyfan byd-eang ac rwy am ddiolch yn fawr i'r rhaglen am roi'r cyfle hyn i mi."
Y Cynghorydd Phyl Davies yw'r Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Addysg. Dywedodd: "Mae'n amlwg fod Georgia'n llysgennad da ar ran myfyrwyr Powys ac rwy'n cytuno â hi nad oes unrhyw reswm pam na ddylai ein pobl ifanc ni gystadlu â'r gorau yn y byd."
"Yma yng Nghyngor Sir Powys, mae'n bleser cael cefnogi Rhwydwaith Seren Llywodraeth Cymru gan ei fod yn un o sawl maes a fydd yn helpu ein disgyblion gyrraedd eu potensial," ychwanegodd y Cynghorydd Davies.
"A dweud y gwir, rydym am weld pob un o'n myfyrwyr ym Mhowys yn gwireddu eu potensial, nawr ac yn y dyfodol. Yr unig ffordd o wneud hyn yw datblygu seilwaith addysg a fydd yn cynnig y cyfleoedd hyn i'w helpu i wireddu eu huchelgais. Byddwn yn gweithio gyda chyd-addysgwyr i ddatblygu achos busnes sy'n ystyried addysg ôl-16 yng nghyd-destun addysg 14-19 a'r cwricwlwm newydd. Bydd hyn yn ein helpu ni wireddu hyn," dywedodd y Cynghorydd Davies.
I wybod mwy am Rwydwaith Seren ewch i <https://gov.wales/seren-network> neu os ydych chi'n fyfyriwr yn ysgol uwchradd ym Mhowys neu gampws NPTC ym Mhowys, siaradwch â'r Pennaeth.