Y Cyngor yn hysbysebu'r prif swydd addysg

Translation Required:
21 Hydref 2019
Mae Cyngor Sir Powys bellach wedi hysbysebu'r prif swydd addysg.
Mae'r cyngor wedi hysbysebu swydd y Prif Swyddog Addysg a'r Cyfarwyddwr Addysg.
Fel Prif Swyddog Addysg, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn atebol am gyflenwi'r gwasanaeth ar draws y meysydd canlynol:
- Gwella ac Effeithiolrwydd Ysgolion
- Cefnogi ysgolion â Rheolaeth Ariannol
- Mynediad a Threfniadaeth Ysgolion
- Sgiliau a Dilyniant, gan gynnwys Addysgu Oedolion a Chymunedol
- Cynhwysiant ac Anghenion Addysgu Ychwanegol
- Addysg ar wahân i'r ysgol, gan gynnwys yr Unedau Cyfeirio Disgyblion
- Gwasanaethau Ieuenctid
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain ar ddatblygu strategaethau addysg cyfrwng Cymraeg a threfniadau gweithredu i sicrhau darpariaeth o safon uchel a deilliannau dysgwyr, yn unol â chyflenwi nodau ac amcanion y cyngor.
Dydd Sul, Tachwedd 3 yw'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.
Dywedodd y Cyng Phyl Davies, Aelod Portffolio'r Cabinet ar faterion Addysg: "Rydym yn benderfynol o weithio gyda'n partneriaid i wneud Powys yn lle gwell i ddysgu. Mae gennym weledigaeth uchelgeisiol ac rydym yn bwriadu gwella ysgolion i bawb a chyflenwi gwasanaethau eithriadol i'n dysgwyr a'n pobl ifanc."
Dywedodd y Prif Weithredwr, y Dr Caroline Turner: "Os ydych chi'n hoffi her, yn rhannu ein brwdfrydedd tuag at sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn cael yr addysg orau bosibl, ac am ein helpu i wneud Powys yn lle gwell i bawb, yna fe hoffem ni dderbyn gair oddi wrthych chi."
Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfle yma, cysylltwch â'n Prif Weithredwr, y Dr Caroline Turner i gael sgwrs gyfrinachol ar 01597 826464 neu anfonwch e-bost at caroline.turner@powys.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, ewch i https://recruitment.powys.gov.uk/