Gwaith yn parhau ar adfywio Parc Llyn Llandrindod

25 Hydref 2019
Dywedodd Cyngor Sir Powys fod gwaith i osod eitemau newydd o seilwaith gwyrdd i wella mynediad i'r cyhoedd o gwmpas Llyn Llandrindod wedi dod i ben.
Erbyn hyn mae'r ardal yn cynnwys cuddfan gwylio adar, llwybr bordiau a llwyfan bysgota newydd i wella mynediad i'r cyhoedd a chynnig buddion tymor hir i ymwelwyr a'r gymuned leol.
Dywedodd yr Aelod Cabinet ar Ddatblygu Economaidd, y Cynghorydd James Evans: "Bydd y gwaith yn hwb sylweddol i drigolion ac ymwelwyr gyda chuddfan hwylus i wylio adar sydd wedi'i gynllunio fel bod defnyddwyr cadeiriau olwyn a bygis yn gallu bod yn agosach at fyd natur. Mae'r guddfan yn cynnwys slotiau gwylio ar sawl uchder fel bod oedolion, plant a defnyddwyr cadeiriau olwyn yn gallu gwylio bywyd gwyllt.
"Gyda'r to, bydd yn bosibl i ysgolion ddefnyddio'r lle ym mhob tywydd a thrwy'r flwyddyn at ddibenion addysgol. Tu fewn bydd yna fyrddau dehongli gyda gwybodaeth ar fywyd gwyllt lleol. Bydd y guddfan yn gwella cyfleusterau gwylio adar er mwyn hyrwyddo gweithgareddau yn yr ardal ac annog mwy o ddiddordeb o'r gymuned.
"Adeiladwyd y llwybr bordiau newydd o ddeunydd di-lithro wedi'i ailgylchu. Bydd yn bosibl ei ddefnyddio trwy gydol y flwyddyn heb fod angen fawr o waith cynnal a chadw am o leiaf 30 mlynedd.
"Mae un o ddau lwyfan pysgota wedi'i osod yn lle'r hen lwyfan oedd mewn cyflwr gwael. Mae'r llwyfan newydd wedi'i wneud o bolyester wedi'i atgyfnerthu â gwydr, gan ddefnyddio tua 8000 o boteli plastig wedi'u hailgylchu, felly'n wych i'r amgylchedd."
Cyn cychwyn ar y gwaith, cynhaliwyd arolwg o ddefnyddwyr gan ddangos bod 77% ohonynt yn cadarnhau bod angen gwella'r cyfleusterau pysgota a gwylio adar, gydag 80% o'r farn y byddai'n gwella parc y llyn.
Bydd yna arolwg arall yn y Flwyddyn Newydd.