Cynhadledd Ysgolion Powys yn trafod gweledigaeth addysg i'r sir

25 Hydref 2019
Bu penaethiaid a llywodraethwyr yn ymgynnull yn Llandrindod i helpu'r cyngor i greu gweledigaeth ar gyfer addysg ym Mhowys.
Croesawodd Cyngor Sir Powys ei Gynhadledd Ysgolion i'r Pafiliwn ddoe (Dydd Iau, 24 Hydref) wrth i waith gychwyn i wella addysg ar gyfer dysgwyr y sir.
Dechrau'r daith gwella addysgol yw'r gynhadledd yma. Fel rhan o hyn, bydd y cyngor yn ymgysylltu â'r holl fudd-ddeiliaid allweddol, gan gynnwys dysgwyr, staff addysgu, llywodraethwyr, rhieni a chymunedau ehangach dros y misoedd nesaf.
Cyflwynwyd data addysgol allweddol y sir i fynychwyr, a gymerodd ran mewn trafodaethau grŵp i geisio ateb cwestiynau gan gynnwys pa gamau gweithredu sy'n angenrheidiol i wella addysg ym Mhowys.
Dywedodd y Cyng Phyl Davies, Aelod Portffolio'r Cabinet ar faterion Addysg: "Mae addysg yn y sir yn wynebu heriau mawr a nodwyd gan Estyn yn ystod eu harolwg o'n gwasanaethau addysg".
"Rydym wedi ymrwymo i wella canlyniadau addysgol ein holl ddysgwyr, ond 'dyw hi ddim yn bosibl i ni wneud hyn ar ein pennau'n hunain. Mae angen ein partneriaid addysg arnom ar y daith hon wrth i ni wella ysgolion i bawb, a chyflenwi gwasanaethau eithriadol i'n dysgwyr a'n pobl ifanc.
"Hoffem ddiolch i bawb a fynychodd ein cynhadledd. Cafwyd trafodaeth fywiog yn ystod y dydd ond roedd yn eglur bod pawb yn teimlo bod angen newid i roi'r addysg a'r sgiliau i bobl ifanc gael y dechrau gorau mewn bywyd."