Arddangosfa Cymdeithas Frenhinol Dyfrlliw Cymru
Bydd arddangosfa gelf agoriadol atyniad diwylliannol newydd Powys, y Gaer, yn cynnwys dyfrlliwiau gan EUB Tywysog Cymru, yn ôl Cyngor Sir Powys.

Translation Required:
October 28 2019
Bydd arddangosfa gelf agoriadol atyniad diwylliannol newydd Powys, y Gaer, yn cynnwys dyfrlliwiau gan EUB Tywysog Cymru, yn ôl Cyngor Sir Powys.
Bydd yn agor ar 5 Rhagfyr ac yn rhedeg hyd 29 Chwefror, 2020, a Chymdeithas Frenhinol Dyfrlliw Cymru fydd yn ei chyflwyno.
Noddwr y Gymdeithas yw EUB Tywysog Cymru, ac mae ef wedi cytuno'n garedig i roi benthyg dau o'i ddyfrlliwiau ei hun i'r Gaer tra bydd yr arddangosfa'n cael ei gynnal.
Dywedodd Aelod Portffolio'r Cabinet dros Ddiwylliant, y Cynghorydd Rachel Powell: "Mae'n anrhydedd i ni gael gwaith gan EUB Tywysog Cymru fel rhan o'n harddangosfa agoriadol. Mae gallu trefnu arddangosfa mor arobryn yn dangos ein huchelgeisiau ar gyfer y Gaer fel atyniad diwylliannol i Powys."
Bydd yr arddangosfa'n cynnwys gwaith gan rai o arlunwyr enwocaf y gwledydd Llychlynnaidd yn ogystal ag arlunwyr enwog o Gymru. Bydd yn cynnwys arddangosfeydd sy'n amrywiol eu pwn ac yn dangos gwahanol ddulliau o drin cyfrwng dyfrlliw.
Mae'r Gymdeithas, a enillodd ei statws Brenhinol yn 2013, wedi cyflwyno arddangosfeydd cyfnewid rhyngwladol yn Ffrainc, yr Eidal a gwledydd Llychlyn. Yn 2017, trefnodd y Gymdeithas arddangosfa yng Ngwlad yr Iâ ar y cyd â Chydffederasiwn Dyfrlliwiau Llychlyn, sy'n cynnwys gwaith arlunwyr o Wlad yr Iâ, Norwy, Sweden, y Ffindir a Denmarc.
Cynhaliwyd yr arddangosfa yn y Tŷ Llychlynnaidd cyfoes yn Reykjavik, gan ddenu diddordeb mawr yn yr holl wledydd Llychlynnaidd. Ceisiodd y Gymdeithas yng Nghymru trefnu arddangosfa gyffelyb mewn man cyfarfod yr un mor drawiadol yng Nghymru, a chytunwyd y byddai'r hwb diwylliannol yn Aberhonddu - y Gaer - yn lle addas ac mai'r arddangosfa honno fyddai achlysur agoriadol y Gaer.