Dangos cynlluniau tai ac ysgol newydd

4 Tachwedd 2019
Bydd cyfle i weld cynlluniau cyffrous am ddatblygiad tai ac ysgol newydd yng ngogledd Powys wythnos nesaf, cadarnhaodd y cyngor sir.
Mae Cyngor Sir Powys yn bwriadu adeiladu tai fforddiadwy ar hen safle'r Red Dragon yn Y Drenewydd ac ysgol newydd i Ysgol Cedewain.
Bydd cyfle i'r cyhoedd weld y cynlluniau yn ystod sesiwn taro heibio yn Ysgol Gynradd Maesyrhandir, dydd Mawrth 12 Tachwedd rhwng 3 - 6 pm.
Bydd adeilad newydd Ysgol Cedewain yn cynnwys cyfleusterau pwrpasol a modern gan gynnwys pwll hydrotherapi, ystafelloedd a gardd synhwyraidd a ffisiotherapi, a chaffi cymunedol. Mae'r prosiect yn rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif sy'n cael ei ariannu gan y cyngor a Llywodraeth Cymru.
Prynodd y cyngor safle'r Red Dragon i ddatblygu cartrefi fforddiadwy newydd ar y safle i ateb anghenion y dref o ran tai.
Dywedodd Nina Davies, Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol : "Rydym am adeiladu tai fforddiadwy a chynaliadwy o ansawdd da sy'n ateb anghenion cymunedau lleol ar draws Powys ac rydym wedi addo datblygu 250 o gartrefi ychwanegol fel rhan o Weledigaeth 2025.
"Bydd ein cynlluniau ar gyfer hen safle'r Red Dragon yn ein helpu ni gwrdd â'r weledigaeth uchelgeisiol hon."
Dywedodd Lynette Lovell, Pennaeth Addysg Dros Dro: "Un o'n blaenoriaethau ni yw adeiladu campws arloesol a modern yn lle hen adeiladau Ysgol Cedewain. Rydym am gynnig cyfleusterau o'r radd orau i'n dysgwyr mwyaf bregus a bydd y cynlluniau hyn yn dangos sut fyddai'r cyfleusterau'n edrych.
"Mae hwn yn ddigwyddiad ar draws gwasanaethau, sy'n cael ei drefnu gan wasanaethau Tai ac Addysg. Byddem yn annog rhieni a'r gymuned i alw heibio i gael golwg ar y cynlluniau cyffrous hyn ac i roi eu barn."
Bydd cyfle i drigolion roi eu barn ar y cynlluniau a fydd yn destun trafodaeth gan y cyngor cyn cyflwyno ceisiadau cynllunio i'r ddau ddatblygiad.