Pryd bwyd heb fod mor fendigedig

5 Tachwedd 2019
Daeth byrbryd cyflym yn bryd bwyd drud i un o drigolion Powys wedi iddo gael ei ddirwyo £75 am daflu sbwriel mewn man prydferth yn y sir.
Cafodd y dyn o Landrindod ei ddirwyo am daflu deunyddiau pecynnu bwyd mewn cilfan ger cronfa ddŵr a chanolfan ymwelwyr Cwm Elan.
Ymchwiliodd swyddogion Ymwybyddiaeth Gwastraff a Gorfodi Cyngor Sir Powys i'r sefyllfa a llwyddasant olrhain y pryniant yn ôl i dy bwyta yn Aberystwyth a defnyddio teledu Cylch Cyfyng i ddarganfod pwy oedd yn gyfrifol.
Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol ar faterion yr Amgylchedd, Nigel Brinn Hulme; "Mae sbwriel ar ochr y ffordd yn bla yn ein cefn gwlad, ac mae'n effeithio ar harddwch Powys. Mae gadael sbwriel mewn unrhyw fan yn warthus, ond mae'n gwbl anfaddeuol os yw'n digwydd mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol megis Cwm Elan.
"Rwy'n falch gallu dweud bod y weithred wrthgymdeithasol yma wedi arwain at sancsiwn ariannol ac rwy'n gobeithio ei fod yn anfon neges gref y byddwn yn cymryd camau gorfodi cryf ar yr ymddygiad diog a hyll yma."
Mae taflu sbwriel yn drosedd o dan Adran 87 Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ac mae'n niweidio'n hamgylchedd. Ar ymyl y ffordd, mae'n arbennig o ddrud ac anodd/peryglus ei glirio.
Mae Hysbysiadau Cosb Benodedig yn fodd effeithiol ac effeithlon o setlo'r mater heb fynd i'r llys. Mae'r hysbysiad cosb benodedig o £75 wedi'i thalu heb iddo orfod mynd i'r llys.
"Rydym yn croesawu ymwelwyr i'n sir brydferth, ond nid rhai sy'n taflu sbwriel. Ewch â'ch sbwriel gartref a'i waredu'n gyfrifol," ychwanegodd Mr Brinn.