Map Rhwydwaith Teithio Llesol
Gwaith ymgysylltuârhanddeiliaid wedi cychwyn ar Fap Rhwydwaith Teithio Llesol Cyngor Sir Powys.
Mae'r fenter hon yn rhoi cyfle i randdeiliaid a thrigolion ddiweddaru a datblygu'r rhwydwaith teithio llesol uchelgeisiol a enwyd yn y dref yn ystod proses Map Rhwydwaith Integredig 2016/2017.
Sylwch, nod y fenter hon yw amlinellu darpar lwybrau a gwelliannau mewn mannau penodol (aneddiadau a bennwyd gan y Gweinidog) ac nid yw'n golygu y bydd llwybrau'n derbyn cyllid ar gyfer gwaith adeiladu.
I gymryd rhan, dilynwch y cyfarwyddiadau isod neu gallwch gymryd rhan yn yr arolwg ar deithio llesol.
Dilynwch y camau hyn i frasgamu at deithio llesol:
- Llwytho/argraffu map o'r dref berthnasol (bydd y map eisoes yn dangos y llwybrau uchelgeisiol a nodwyd eisoes sy'n sylfaen i'r gwaith hwn)
- Marciwch ar y map mewn lliw coch unrhyw lwybrau newydd neu welliannau i lwybrau presennol a fyddai yn eich barn chi o fudd i'r cynllun Teithio Llesol yn y dref.
- Anfonwch y map iactive@powys.gov.uk
Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn ychwanegu dulliau eraill i gymryd rhan, felly cadwch lygad. Yn y cyfamser, os hoffech ddisgrifio eich awgrymiadau (yn hytrach na llwytho'r map) e-bostiwch active@powys.gov.uk
Cliciwch ar bob tref isod i weld mapiau o'r llwybrau
Sylwch: er bydd y gwaith ymgysylltu hwn yn canolbwyntio'n bennaf ar yr 11 ardal leol penodol ym Mhowys (a bennwyd gan y Gweinidog) rydym hefyd yn croesawu awgrymiadau i wella mesurau teithio llesol yn rhannau eraill o Bowys. Anfonwch eich awgrymiadau at active@powys.gov.uk